Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
56 yn rhagor o farwolaethau Covid yng Nghymru
Mae 56 yn rhagor o bobl yng Nghymru wedi marw gyda coronafeirws, gan fynd 芒 chyfanswm y marwolaethau i 3,857, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 2,487 achos newydd eu cofnodi ddydd Gwener hefyd - sydd yn codi cyfanswm yr holl achosion positif yng Nghymru i 165,721.
O'r achosion newydd, roedd 238 yng Nghaerdydd, 216 yn Sir y Fflint a 199 yn Rhondda Cynon Taf.
Ond Wrecsam yw'r ardal gyda'r gyfradd uchaf o achosion dros yr wythnos ddiwethaf, gyda 904.7 fesul 100,000 o bobl.
Yn ail mae Pen-y-bont ar Ogwr gyda 894.3, yna Sir y Fflint gyda 673.3 a Merthyr Tudful gyda 648.1.