Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Staff parc Eryri 'wedi eu cam-drin gan ymwelwyr'
Mae staff sy'n gofalu am faes parcio yn Eryri wedi profi "camdriniaeth" wrth i ymwelwyr barhau i deithio i ardaloedd o harddwch.
Dywedodd llefarydd ar ran Parc Cenedlaethol Eryri bod y penderfyniad i gadw meysydd parcio ar agor yn cael ei adolygu'n gyson.
Ond fe allai cau'r meysydd arwain at barcio anghyfreithlon, meddai.
Ddydd Sadwrn, dywedodd warden o'r parc bod yr ardal wedi bod yn "siomedig o brysur".
Ychwanegodd yr heddlu hefyd bod ymwelwyr o dros ogledd Cymru a rhannau o Loegr wedi eu gweld.
'Siomedig iawn'
Gyda Chymru gyfan dan gyfyngiadau Lefel 4 ers 20 Rhagfyr, dim ond dan amgylchiadau penodol mae pobl yn cael gadael eu cartrefi.
Mae hynny'n cynnwys gweithio, siopa am nwyddau hanfodol neu ddarparu gofal.
Mae hefyd yn bosib mynd allan i ymarfer corff, ond dylai'r daith ddechrau a gorffen gartref.
Dywedodd y llefarydd ar ran y parc bod y mynyddoedd ar agor i bobl ymarfer corff, a bod meysydd parcio yn bwysig i bobl gyda phroblemau corfforol.
Gall hefyd atal pobl rhag parcio ar y ffyrdd neu mewn mannau anniogel.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Ond dywedodd bod cau meysydd parcio dan ystyriaeth ar ôl i staff "gael eu cam-drin, sydd yn siomedig iawn".
"Rydyn ni'n gweithio'n agos hefo'r heddlu a Chyngor Gwynedd ac yn adolygu'r peth yn gyson."
Ychwanegodd bod rôl y staff wedi newid yn ddiweddar a bod angen addysgu ymwelwyr am y rheolau.
"Mae'r rhan fwyaf yn dweud 'Dwi wedi camddeall hynny', ond mae rhai'n dweud 'Dwi'n gwneud beth bynnag dwi isio'."
Ar Twitter ddydd Sadwrn, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod nifer o bobl wedi teithio gyda'r bwriad o gerdded Yr Wyddfa - gan gynnwys rhai o dde Lloegr.
Mae heddluoedd Cymru wedi dweud bod pobl o lefydd fel Caint, Southampton a Solihull wedi ymweld â mannau poblogaidd, a hefyd pobl o dros Gymru.
Mae unrhyw un sy'n torri rheolau Covid-19 yn gallu derbyn dirwy o £60, sy'n codi i £120 am ail drosedd.