'Anwybyddu pandemig byd-eang' i nodi troad y flwyddyn

Disgrifiad o'r llun, Swyddog heddlu ar ddyletswydd yn ardal Pen Y Fan

Mae achosion o dorri rheolau Covid i nodi'r flwyddyn newydd yn "anwybyddu'r ffaith ein bod yng nghanol pandemig iechyd byd-eang", yn ôl un o brif gwnstabliaid Cymru.

Dywedodd lluoedd ddydd Gwener eu bod eisoes wedi cofnodi achosion eleni, a bod rhai pobl wedi teithio i Gymru o Southampton, Caint a Solihull.

Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gofnodwyd sawl achos o dorri'r rheolau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu rhanbarth Nos Galan.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Dywedodd cyfrif Twitter y llu yn Rhondda Cynon Taf fod dirwy wedi ei rhoi wedi i bobl ddod at ei gilydd yn ardal Ferndale. Roedd eraill wedi cael gair o gyngor a'u danfon adref.

Fe fu plismyn yn atal cerbydau yn ardal Merthyr Mawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac roedd rhai o'r perchnogion yn dod o lefydd fel Gateshead a Middlesex. Dywed y llu y bydd camau pellach yn erbyn unigolion am dorri'r rheolau.

Ysgrifennodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan at Twitter bod yna achosion o "ymosodiadau, yfed a gyrru a phobl yn anwybyddu'r ffaith ein bod yng nghanol pandemig iechyd byd-eang".

Plismona'r cyfyngiadau - ystadegau Heddlu'r De

  • Roedd yna 240 o adroddiadau bod rhywrai'n torri rheolau Covid nos Galan yn unig yn y rhanbarth, gan arwain at 43 o Rybuddion Cosb Benodol. Mae rhagor o ymholiadau eto i'w cwblhau.
  • 430 oedd cyfanswm y Rhybuddion Cosb Benodol yn ardal y llu trwy fis Rhagfyr.
  • Mae 941 o gerbydau wedi cael eu gwirio ers 23 Rhagfyr fel rhan o ymgyrch sy'n parhau tan o leiaf 11 Ionawr.

Gyda Chymru gyfan dan gyfyngiadau Lefel 4 ers 20 Rhagfyr, mae pobl ond yn cael gadael eu cartrefi dan amgylchiadau penodol.

Mae hynny'n cynnwys teithiau hanfodol er mwyn gweithio, siopa am fwyd a meddyginiaeth, neu ddarparu gofal.

Mae hefyd yn bosib mynd allan i wneud ymarfer corff, ond mae disgwyl i'r daith ddechrau a darfod ar y stepen drws.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Claire Evans o Heddlu'r De: "Mae'r cyfyngiadau sydd mewn grym yna am reswm, ac mae cyn bwysiced ag erioed i ymddwyn yn gyfrifol.

"Yn hytrach na meddwl pa mor bell allwch chi fynd [heb gael eich dal neu eich cosbi], meddyliwch amyr hyn ddyliech chi wneud i gadw eich hun ac eich teulu'n ddiogel."