Cynnydd o 65 yn nifer y marwolaethau coronafeirws

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae 65 yn rhagor o farwolaethau sy'n gysylltiedig 芒 Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru.

Yn 么l ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru cafodd 1,831 o achosion positif hefyd eu cofnodi.

Daw hyn 芒'r cyfanswm o achosion positif i 148,537 ers dechrau'r pandemig, a chyfanswm y marwolaethau i 3,494.

Byrddau iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe wnaeth gofnodi'r rhif uchaf o farwolaethau, sef 14 yr un.

Roedd yna 11 yr un yn ardaloedd Hywel Dda a Cwm Taf Morgannwg, a naw yng Nghaerdydd a'r Fro.

Yn y gogledd, roedd yna chwech o farwolaethau yn ardal Betsi Cadwaladr.

Tair ardal yn gweld gostyngiad

O ran y siroedd, Pen-y-bont ar Ogwr sydd 芒'r gyfradd uchaf yng Nghymru gyda 825.6 ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth yn profi'n bositif.

Ym Merthyr y ffigwr yw 754.2, a 661.3 ym Mlaenau Gwent.

Ond mae'r tair ardal wedi gweld gostyngiad diweddar yn eu cyfraddau.

Mae achosion yn Wrecsam yn parhau i gynyddu ac wedi cyrraedd 568.6 - yr uchaf yn y gogledd - a mae nawr yn uwch nag yn ardaloedd fel Rhondda Cynon Taf (564.5).

Mae hynny'n cymharu 芒 87.1 yn Sir F么n a 83.5 yng Ngwynedd, sef y gyfradd isaf yng Nghymru.