ONS: Cyfanswm marwolaethau Covid yn cyrraedd 4,200

Disgrifiad o'r llun, Ardal Rhondda Cynon Taf sydd 芒'r gyfradd uchaf o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr

Mae cyfanswm y marwolaethau o ganlyniad i Covid-19 yng Nghymru dros 4,000 yn 么l ffigyrau swyddogol.

Cafodd 223 o farwolaethau yn ymwneud 芒 Covid eu cofnodi yn yr wythnos yn gorffen 11 Rhagfyr.

Mae hyn 16 yn uwch na'r wythnos flaenorol, ac yn groes i'r patrwm yn Lloegr lle bu gostyngiad.

Roedd marwolaethau Covid yn gyfrifol am 27.4% o holl farwolaethau Cymru, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Y cyfanswm ar gyfer holl farwolaethau Covid yng Nghymru hyd yr wythnos yn gorffen 11 Rhagfyr oedd 4,115.

Gan ychwanegu marwolaethau yn ystod y dyddiau diwethaf mae'n dod 芒'r cyfanswm i 4,200.

Rhondda Cynon Taf oedd 芒'r nifer uchaf - 575 - gyda Chaerdydd yn ail gyda 493 o farwolaethau.

Ers diwedd Ebrill, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cofnodi ei nifer mwyaf o farwolaethau wythnosol.

Roedd yna 57 o farwolaethau - 36 mewn ysbytai a 17 mewn cartrefi gofal.

Yn yr wythnos yn gorffen 11 Rhagfyr roedd yna 52 o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 Covid yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Bu gostyngiad am yr ail wythnos yn olynol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg - lawr i 36.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafod 57 o farwolaethau eu cofnodi mewn un wythnos ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Roedd 29 o farwolaethau yn ardal Hywel Dda, 20 o'r rhain yn ymwneud 芒 chleifion ysbyty yn Sir G芒r.

O ran y byrddau iechyd eraill roedd yna 23 yn ardal Betsi Cadwaladr, 20 yng Nghaerdydd a'r Fro a chwech ym Mhowys.

Yn y siroedd unigol, dim ond Gwynedd a M么n welodd yr un farwolaeth am y drydedd wythnos yn olynol.

Rhondda Cynon Taf - 572 -sydd 芒'r cyfanswm uchaf o farwolaethau Covid-19 yng Nghrymu.

Mae'n golygu fod yna gyfran o 239 o farwolaethau am bob 100,000 yn y sir, y gyfradd uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Marwolaethau ysbytai

Mae 25 yn rhagor o farwolaethau Covid wedi eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn gysylltiedig gydag ysbytai.

Golygai hyn mai cyfanswm y marwolaethau ers mis Hydref yw 261.

Roedd 13 yn rhagor o farwolaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, naw yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr a thair o farwolaethau yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr - yn yr wythnos yn diweddu dydd Llun.

Cymharu 芒 blynyddoedd gynt

Mae nifer y 'marwolaethau ychwanegol' yn cael ei benderfynu drwy gymharu 芒 chyfartaledd marwolaethau blaenorol dros gyfnod o bum blynedd.

Yng Nghymru, ar gyfer yr wythnos diweddara roedd 814 o farwolaethau - sydd 121 (17.5%) yn uwch na'r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Ffigyrau'r ONS

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cofnodi marwolaethau pan mae doctoriaid yn amau neu yn cadarnhau fod Covid yn bresennol a hynny mewn ysbytai, cartrefi gofal, hosbis neu gartrefi.

Mae amcangyfrif fod tua 90% o farwolaethau lle mae cyfeiriad at Covid, ac taw'r haint yw'r prif ffactor a bod modd dweud felly bod y farwolaeth o ganlyniad i Covid.

Mae'r broses yma o gofnodi marwolaethau yn cymryd mwy o amser na'r drefn ddyddiol o gofnodi sy'n cael ei hadrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond mae proses y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael ei ystyried yn un fwy cywir.