Siopau annibynnol yn dal eu tir er gwaetha'r pandemig

Disgrifiad o'r llun, Er y gefnogaeth, mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol a chymysg i siop Pethau Olyv
  • Awdur, Iola Wyn
  • Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru

Wrth i nifer o siopau mawrion ddiflannu oddi ar y stryd fawr, mae'n ymddangos fod siopau bychain annibynnol mewn trefi marchnad yn dal eu tir.

Mae tref fechan Sancl锚r yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin聽wedi gweld tipyn o fynd a dod yn y blynyddoedd diwethaf, ond bellach mae'r adeiladau gweigion yn dechrau llenwi a siopau newydd wedi agor yn ystod y pandemig.

Un o'r rheiny yw siop anrhegion Llawn Cariad, agorodd ei drysau am y tro cyntaf fis Awst.

"Fe welon ni'r siop fach hyn, a thair wythnos o'i gweld hi, o'dd hi ar agor 'da ni!" eglura un o'r perchnogion, Jane Morgan.

"Dwi聽ddim wedi difaru dim, achos ni 'di cael cefnogaeth ardderchog o'r gymuned."

Disgrifiad o'r fideo, Ai Nadolig y siopau bach annibynnol fydd hi eleni?

Mae Ms Morgan yn credu fod聽cwsmeriaid yn awyddus i ddiolch am amrywiol wasanaethau sydd wedi eu cynnig yn lleol yn ystod y naw mis diwethaf.

"Ma' lot o'r siope bach 'di bod mor dda i gymunede, yn helpu pobl mas yn ystod y pandemig," meddai.

"O' nhw'n cludo i dai pobl pan o'dd popeth ar gau, so fi'n credu bo' pobl yn ddiolchgar am hynny.

"Fi'n credu bo' ni'n聽mynd n么l i'r 70au a'r 80au, lle roedd mwy o wasanaeth personol."

Disgrifiad o'r llun, "Fi'n credu bo' ni'n聽mynd n么l i'r 70au a'r 80au, lle roedd mwy o wasanaeth personol," meddai Jane Morgan

'Teimlo'n saff yn Sancl锚r'

Yn 么l cwsmer yn y siop, Eirian Davies, mae cefnogi busnesau bychain yn bwysig.

"S'dim ishe mynd yn bellach na Sancl锚r, yn enwedig 'da Covid yn mynd yn uchel yn y sir hon," meddai.

"Mae'n teimlo'n saff yn Sancl锚r - sa'i mo'yn mynd rhy bell 'da'r plant."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Marlene Lewis ei bod yn teimlo bod popeth y mae hi eu hangen ar gael yn lleol

Mae un o gwsmeriaid ffyddlon siop goffi a dillad Pethau Olyv, Marlene Lewis, yn un arall sy'n hapus yn ei milltir sgw芒r.

"Ma' popeth i gael 'ma - bwtsiwr, siope da fel hon - s'dim ishe gwell! A dweud y gwir, sa'i 'di bod yng Nghaerfyrddin ers mis Mawrth."

'Hapusach i siopa'n lleol'

Er y gefnogaeth, mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol, a chymysg yw teimladau perchnogion Pethau Olyv, Yvonne Griffiths-Rogers ac Olive Bowen.

"Ma' pobl leol 'di cefnogi ni yn dda iawn," meddai Ms Griffiths-Rogers. "Fi'n credu bo' pobl yn hapusach i siopa'n lleol dyddie hyn."

"A ma' hi'n saff 'ma," meddai Ms Bowen. "Ni 'di newid y system yma, a ni'n sanitiso聽drwy'r amser, a so ni'n cael gormod yn y siop ar yr un tro."

Disgrifiad o'r llun, Mae Olive Bowen ac Yvonne Griffiths-Rogers yn credu bod angen bod yn gadarnhaol a gobeithio am y gorau ar gyfer 2021

Ond mae gwerthiant wedi disgyn yn ddiweddar.

"Ma' pethe wedi tawelu tipyn bach - ma' pobl ofn, chi'n gweld," meddai Ms Bowen.

Ond mae'r ddwy yn credu bod angen bod yn gadarnhaol a gobeithio'r gorau ar gyfer 2021.