'Bydd trychineb os na wnawn ni ddilyn rheolau Covid-19'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cofnodwyd 800 achos newydd yn y deuddydd diwethaf yn unig yn y rhanbarth, medd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

Mae yna rybudd y gall achosion coronafeirws gyrraedd lefelau trychinebus yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot oni bai bod pobl yn dilyn y rheolau pellter cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig.

Yn 么l un o gyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, mae yna berygl "os nad yw pobl yn gwneud y peth cywir a chadw ar wah芒n i eraill gymaint 芒 phosib" i'r feirws "ddod 芒 gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'w gliniau".

Mae arweinwyr a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol y ddau gyngor sir yn ategu rhybudd y cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus, Dr Keith Reid.

Dywed y bwrdd iechyd bod nifer achosion Covid-19 Castell-nedd Port Talbot - yr uchaf yng Nghymru - yn cynyddu'n gyflym "a dyw Abertawe ddim yn bell y tu 么l".

Mae'r sefyllfa dros Gymru'n "ddifrifol iawn" meddai'r gweinidog iechyd ddydd Llun.

'Pwynt tyngedfennol'

Mae'r gyfradd heintiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot erbyn dydd Llun yn 622 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth mewn wythnos. 446 achos yw'r gyfradd yn Abertawe.

Ym mis Medi, cyn cyfnodau clo lleol, roedd y ffigyrau yn 56 achos i bob 100,000 yn Abertawe a 38 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

"Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol," meddai Dr Reid. "Mae cyfraddau heintiadau ar eu lefel uchaf erioed a rhaid i ni gyd chwarae ein rhan o ddod 芒'r sefyllfa yma dan reolaeth ac yn gyflym.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'n hanfodol i bobl gadw pellter i osgoi trychineb wedi'r Nadolig, medd yr arbenigwyr iechyd

"Os fydd heintiadau'n parhau i godi ar y raddfa bresennol heb gyfnod clo arall cyn Nadolig, bydd y system yn cael yn cael ei gorlethu.

"Nid wyf eisiau sefyll yma o fewn y pythefnos nesaf yn dweud wrth bobl fod lledaeniad y feirws tu hwnt i reolaeth, bod gormod o bobl yn marw'n ddiangen a bod gweithwyr gofal cymdeithasol methu ymdopi am lawer hirach."

'Stopiwch a meddyliwch'

Mae Dr Reid yn cydnabod awydd pobl i fod gyda'u ffrindiau a pherthnasau dros yr 诺yl ar ddiwedd blwyddyn mor heriol, ond "ar ran meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd cymdeithasol sydd wedi gweithio i'r eithaf cyhyd - pl卯s stopiwch a meddyliwch.

Ychwanegodd: "Mae gyda ni gyfle i osgoi trychineb potensial, ond mae gyda ni gyd ran i'w chwarae."

Ffynhonnell y llun, Empics

Disgrifiad o'r llun, Mae ofnau y bydd gwasanaethau iechyd a gofal dan bwysau mawr eto os na fydd pobl yn dilyn y rheolau

Rhwng 25 Tachwedd a 1 Rhagfyr, cofnodwyd 1,674 achos Covid-19 newydd yn y rhanbarth - 711 yng Nghastell-nedd Port Talbot a 960 yn Abertawe.

Yn 么l Dr Reid, mae'n glir mai cymdeithasu mewn cartrefi, yn y stryd ac yn y gweithle sydd wrth wraidd y cynnydd.

"Oni bai bod gostyngiad sylweddol yn y trosglwyddiad hwn yn y gymuned, byddan ni mewn sefyllfa drychinebus erbyn Ionawr oherwydd cynnydd mawr yn achosion Covid a mynediadau i'r ysbytai."

'Bydd rhaid symud adnoddau'

Mae'r bwrdd iechyd yn cydweithio a'r ddau gyngor sir i geisio atal lledaeniad y feirws a rheoli effaith cynnydd mewn achosion wedi Nadolig.

Yn 么l Cyngor Abertawe, mae'r cynnydd yn nifer achosion yn y gymuned "yn destun pryder mawr, ac mae'r galw am wasanaethau ysbyty a chymunedol nawr yn fwy na'r adnoddau sydd gyda ni".

Ychwanegodd fod gweithwyr "wedi blino'n llwyr" wedi misoedd lawer o waith "anhygoel", a'u bod "yn edrych ar leihau gwasanaethau mewn rhai ardaloedd, a gwneud newidiadau does neb eisiau eu gwneud".

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd yn rhybuddio y bydd gwasanaethau'n "cael trafferth ymateb" os fydd niferoedd achosion yn cynyddu ar y raddfa bresennol.

Ychwanegodd y bydd unigolion "sy'n cael cefnogaeth yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o bryd, neu mewn cartref gofal yn cael eu heffeithio gan y newidiadau bydd rhaid i ni eu gwneud wrth symud adnoddau i ofalu am y rhai mwyaf anghenus".