Helpu cyrff cyhoeddus i hyrwyddo'u gwasanaethau Cymraeg

Mae pecyn o adnoddau marchnata wedi cael ei greu ar gyfer sefydliadau cyhoeddus gyda'r nod o'u helpu i dynnu sylw at y ffaith fod eu gwasanaethau ar gael yn Gymraeg.

Cafodd ei greu gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer ail flwyddyn diwrnod arbennig i hyrwyddo hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio'r iaith.

Ar y Diwrnod Hawliau'r Gymraeg cyntaf y llynedd, fe gyrhaeddodd yr ymgyrch bron i filiwn o gyfrifon ar Twitter, gyda llawer yn defnyddo'r hashtag #maegenihawl.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts eu bod wedi darparu cymorth wedi i'w harolygon ddangos "mai prin oedd yr enghreifftiau o sefydliadau cyhoeddus oedd yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg".

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ymgyrch yn gyfle i gyrff atgoffa'u staff o hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, medd Aled Roberts

"Wrth reswm, rydym yn disgwyl i'r sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn" meddai Mr Roberts.

"Ond mae rhoi un diwrnod penodol i bawb ddathlu'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth.

"Mae hefyd yn reswm i neilltuo dyddiad bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol o'r hawliau sy'n bodoli a chynnal gweithgareddau hyrwyddo."

Ymunodd 83 o sefydliadau 芒 gweithgaredd Diwrnod Hawliau'r Gymraeg y llynedd, gan gynnwys:

  • cynghorau sir;
  • heddluoedd a gwasanaethau t芒n ac achub;
  • colegau a phrifysgolion;
  • byrddau iechyd;
  • parciau cenedlaethol; a
  • sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Disgrifiad o'r llun, Mae'n bwysig i allu cyfathrebu'n glir yn yr iaith o'ch dewis, medd Dirprwy Brif Gwnstab Heddlu Gwent, Amanda Blakeman

Mae cymryd rhan yn amlygu ymrwymiad Heddlu Gwent i'r iaith, medd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Amanda Blakeman, ac "yn gyfle i ddangos i'n swyddogion a'n staff sut y gallan nhw ddefnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith".

Ychwanegodd fod "cyfathrebu'n glir yn arf hanfodol wrth blismona" a'u bod "eisiau i bobl gael y gwasanaeth o'r ansawdd uchaf gan Heddlu Gwent pan maent yn cysylltu 芒 ni, yn yr iaith maen nhw fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.

"Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaeth er mwyn ei gwneud hi'n haws i'r gymuned gysylltu gyda ni," meddai, "boed hynny yn aelod o'r cyhoedd yn ymweld 芒 derbynfa neu'n ffonio ystafell reoli'r llu am gymorth."

'Tipyn o hwyl'

Fel rhan o ymgyrch y llynedd, fe rannodd Gr诺p Llandrillo Menai glipiau fideo o staff a dysgwyr yn disgrifio sut maen nhw'n defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith a'u haddysg.

Fe wnaethon nhw hefyd greu cardiau post yn hyrwyddo hawliau dysgwyr, ac yn gofyn i bobl wneud un addewid i ddefnyddio mwy o'r iaith yn y coleg.

"Eleni, ymysg pethau eraill, bydd ein Llysgenhadon Cymraeg yn creu flogiau yn s么n am sut maen nhw'n defnyddio'r Gymraeg o ddydd-i-ddydd," meddai Rheolwr Sgiliaith a Datblygu Dwyieithrwydd y gr诺p, Gwennan Richards.

"Mae Diwrnod Hawliau'r Gymraeg yn gyfle i gael tipyn o hwyl, tra'n codi ymwybyddiaeth o hawliau pwysig sydd gan ddysgwyr a staff."