Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwariant Covid-19 i ostwng 'yn sydyn' y flwyddyn nesaf
- Awdur, Daniel Davies
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Bydd y cyllid i helpu gwasanaethau a busnesau ymdopi gyda Covid-19 yn gostwng yn sylweddol y flwyddyn nesaf, meddai arbenigwyr.
Gallai rhannau o'r gyllideb wynebu toriadau eto yn ystod y blynyddoedd ar 么l hynny, yn 么l ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.
Bydd y symiau "syfrdanol" sy'n cael eu gwario ar y pandemig yn crebachu'n gyflym yn 2021-22.
Cafodd Llywodraeth Cymru 拢5.6bn yn ychwanegol eleni o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed mewn ymateb i coronafeirws yn San Steffan, ond bydd hynny'n gostwng i tua 拢766m.
Mae disgwyl i gyllideb Cymru gael ei chyhoeddi ar 21 Rhagfyr.
Cynlluniau 'eithaf llym' i ddod
Mae gweinidogion yn wynebu "ansicrwydd digynsail" wrth iddyn nhw baratoi eu cynlluniau gwario, .
Hyd yn oed heb yr arian ychwanegol i ymladd Covid-19, fe fydd y gyllideb sy'n talu am wasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd yn codi.
Ond os ydy Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un addewidion a wnaed i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, yna ymhen pum mlynedd fe fydd y gyllideb ar gyfer gwasanaethau eraill 8% yn is nag yr oedd pan ddaeth David Cameron i'r llyw yn 2010.
Mae'r adroddiad yn ddadansoddiad o'r adolygiad gwariant a gyhoeddwyd gan y Canghellor Rishi Sunak fis diwethaf.
Dywedodd Guto Ifan, un o'r awduron: "Ar 么l y cynnydd enfawr rydym ni wedi'i weld yng nghyllideb Cymru eleni er mwyn ymateb i Covid-19, mae'r cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn eithaf llym.
"Bydd cyllid Covid-19 yn gostwng yn sydyn y flwyddyn nesaf, er bod disgwyl i'r pwysau sy'n deillio o'r pandemig barhau."