Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dros 3,000 o ddirwyon coronafeirws yng Nghymru
Mae dros 3,000 o ddirwyon wedi eu rhoi gan heddluoedd Cymru am dorri rheolau coronafeirws ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (CCPH) bod 3,028 o ddirwyon wedi eu rhoi yng Nghymru rhwng 27 Mawrth a 16 Tachwedd.
Cafodd dros hanner y dirwyon - 1,759 - eu rhoi gan Heddlu Dyfed-Powys.
Cafodd bron un ymhob tair dirwy ei roi i rywun rhwng 18-24 oed.
Roedd 2,215 o'r dirwyon yn ymwneud 芒 thorri rheolau teithio - dros 70% o'r holl ddirwyon.
Cafodd 582 o ddirwyon eu rhoi gan Heddlu Gogledd Cymru, 425 gan Heddlu'r De a 232 gan Heddlu Gwent.
Fe wnaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain hefyd ddirwyo 30 o bobl.
Dros y penwythnos fe gafodd yr heddlu yng Nghaerdydd y pwerau ychwanegol i stopio ceir er mwyn ceisio canfod pobl oedd yn torri rheolau drwy deithio o Loegr.
Cafodd dros 200 o geir eu stopio meddai'r heddlu, ac fe gafodd wyth o ddirwyon eu cyflwyno. Roedd rhain yn cynnwys cwpl o Essex oedd yn honni eu bod yn danfon anrhegion Nadolig.
Dywedodd CCPH bod troseddau treisgar, troseddau gyrru a lladrata yn is ym mis Hydref o'i gymharu gyda'r un cyfnod llynedd.
Ond ychwanegodd cadeirydd y gr诺p bod y galw ar yr heddlu yn "parhau'n sylweddol".