Brexit: Cyn-Ysgrifennydd Cymru am weld 'mwy o frys'

Mae angen i Lywodraeth Prydain 'fwrw ati'n gyflymach' i sefydlu'r drefn fydd yn cymryd lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben, yn 么l cyn-Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Stephen Crabb, AS, wrth 91热爆 Cymru ei fod yn croesawu'r ffaith fod rhai manylion wedi eu rhoi yn ddiweddar ond fod angen rhagor o eglurhad.

Mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi mynegi siom yngl欧n 芒'r 'diffyg manylder' a ddaeth yn sgil Adolygiad Gwariant yr wythnos hon.

Wrth drafod y gronfa newydd - y Gronfa Ffyniant Cyffredin - mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi datgan y bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu o leiaf yr un faint o arian i Gymru ag sydd ar hyn o bryd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd.

Ar gyfartaledd mae'r Undeb Ewropeaidd yn cyfrannu tua 拢1.5biliwn i whanol brosiectau yn y DU.

Ond ni wnaeth yr Arolwg Gwariant ddydd Mercher gadarnhau y byddai Cymru yn derbyn yr un swm bob blwyddyn, sef 拢375m.

Fis diwethaf fe wnaeth y Pwyllgor Materion Cymreig T欧'r Cyffredin, sy'n cael ei gadeirio gan Mr Crabb, gyhoeddi adroddiad yn dweud mai pitw oedd y manylion oedd wedi dod i law.

Ddydd Sul ar raglen Politics Wales dywedodd Mr Crabb, AS Preseli Penfro: "Rwy'n falch yn bersonol fod y llywodraeth wedi dangos ychydig yn fwy o'r gwaith sydd wedi ei wneud a mwy o fanylion, ond mae lot yn fwy y mae angen i ni ei weld."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Fe fyddwn yn parhau i weithio yn agos gyda'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a gydag eraill wrth i ni ddatblygu'r gronfa."