Pontio wedi Brexit: Busnesau '芒 gwaith i'w wneud'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cloc yn tician: Mae'r cyfnod pontio wedi Brexit yn dod i ben ar 31 Rhagfyr
  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 91热爆 Cymru

Mae gan fusnesau ar draws Cymru "waith i'w wneud" i fod yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio'n dilyn Brexit, yn 么l Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.

Daeth sylwadau Jeremy Miles hanner can niwrnod cyn y bydd y cyfnod yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn boed cytundeb masnach newydd yn ei le ai peidio.

Galwodd Mr Miles hefyd ar i Lywodraeth y DU "newid trywydd".

Dywedodd Llywodraeth y DU y gallai Cymru "oresgyn y storm" pe na bai cytundeb masnach newydd.

Wrth i drafodaethau barhau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd mae amser yn mynd yn brin i fusnesau baratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod.

Byddai diffyg cytundeb yn arwain at godi tariffau ar nwyddau sy'n teithio rhwng y DU a gwledydd yr UE.

Byddai angen gwirio nwyddau ar y ffin hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae angen eglurder a gweithredu ar frys yn yr amser sy'n weddill, medd Jeremy Miles

Wrth baratoi i gyhoeddi asesiad ddydd Mercher o barodrwydd y wlad ar gyfer sefyllfa o'r fath, dywedodd Mr Miles:

"Os edrychwch chi ar barodrwydd busnesau, os edrychwch chi ar barodrwydd porthladdoedd mae gwaith i'w wneud felly mae angen eglurder yn gyflym a chydweithredu.

"Mae'r sialensau yma'n sialensau pwysig, a'r neges wrthon ni heddiw yw nid 'fydd popeth yn fine', ond mae'n rhaid i bawb nawr sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r impact arnyn nhw a chymryd y camau priodol yn y cyfnod byr sydd gyda ni ar 么l."

'Sefyllfa ddigynsail'

Mae Mr Miles yn feirniadol hefyd o sut mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati yn ystod y trafodaethau gyda Brwsel.

"Er gwaethaf pwysau gennym ni a llawer o sefydliadau eraill, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwneud cais i estyn y cyfnod pontio, er bod y ddwy ochr yn wynebu sefyllfa ddigynsail yn sgil y pandemig byd-eang," meddai

"Mae hyn wedi rhoi'r DU mewn sefyllfa lle y mae rhaid iddi wneud penderfyniadau cymhleth a radical ynghylch ei dyfodol pan fo cymdeithas eisoes yn wynebu ansicrwydd corfforol, meddyliol ac economaidd.

"Gellid bod wedi osgoi hyn - mae dull gweithredu Llywodraeth y DU wedi'i arwain gan ystyriaethau gwleidyddol tymor byr yn hytrach na buddiannau tymor hir y DU.

"Rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i newid trywydd ac i flaenoriaethu swyddi, bywoliaethau a sicrwydd economaidd."

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl angen sicrwydd, medd Simon Hart, sy'n

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart y byddai hi'n "berffaith bosib hyd yn oed os nad oes cytundeb call i ddiogelu'r economi Gymreig".

Ychwanegodd na fyddai pwrpas ymestyn y cyfnod pontio.

"Mae pobl eisiau'r sicrwydd o wybod pryd bydd y cyfnod pontio'n dod i ben," meddai.

"Mae angen tipyn o baratoi o hyd rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ond ar y cyfan mae pobl yn cael pethau'n barod.

Ac os nad oes cytundeb masnach, gallai Cymru "oresgyn y storm a bod yn gryfach," meddai Mr Hart.