Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Cyhoeddi 44 yn rhagor o farwolaethau
Mae gweinidog iechyd meddwl Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod 44 yn rhagor o farwolaethau coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Wrth siarad yng nghynhadledd y llywodraeth i'r wasg ddydd Mercher, dywedodd Eluned Morgan hefyd fod mwy na 250 o achosion o'r haint ymhob 100,000 o boblogaeth y wlad.
O'r 44 marwolaeth ddiweddaraf, roedd 24 yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, 10 yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, chwech yn ardal Aneurin Bevan, gyda dwy farwolaeth yr un yn ardal Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro.
Fe ddigwyddodd 17 o'r marwolaethau allan o'r 44 gafodd eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 1 Tachwedd - gan ddod a'r cyfanswm am y dydd hwnnw i 18 gan fod un achos wedi ei gofnodi'n flaenorol.
Dywedodd Eluned Morgan fod y cyfraddau uchaf yn ardaloedd cyngor Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.
"Yn yr ardaloedd hyn, rydym wedi gweld cyfraddau uwch na 500 o achosion fesul 100,000 o bobl," meddai.
Wrth drafod y sefyllfa ddiweddaraf ychwanegodd y "bydd nifer gwirioneddol yr heintiau yn llawer uwch".
"Mae'n destun gofid mawr imi ddweud wrthych y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn adrodd am 44 marwolaeth arall.
"Mae fy meddyliau gyda phawb sy'n galaru ac yn galaru am golli rhywun annwyl ar adeg sydd eisoes yn amser anodd."
Yn y Senedd yn ddiweddarach, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod 1,344 o gleifion Covid mewn ysbytai erbyn dydd Mawrth."Mae hynny 21% yn uwch na'r un diwrnod yr wythnos diwethaf a dyma'r nifer uchaf o gleifion Covid mewn gwely (ysbyty) ers 25 Ebrill," ychwanegodd.
Effaith ar iechyd meddwl
Esboniodd sut yr oedd yr haint wedi effeithio ar iechyd corfforol llawer o bobl "ond mae hefyd yn cael effaith enfawr ar iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl".
"Mae yna rai sy'n teimlo mwy na dim ond ymdeimlad cyffredinol o rwystredigaeth gyda'r pandemig hwn, yn brwydro 芒 theimladau o ddicter; pryder; iselder; ofn; poeni a hyd yn oed anobaith.
"Yn rhy aml mae llawer yn anwybyddu neu'n methu 芒 chydnabod eu pryder cynyddol, yn ceisio anwybyddu teimladau negyddol ac yn gobeithio y byddant yn diflannu.
"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu cydnabod y teimladau hyn ac yn gallu siarad yn agored amdanyn nhw."
Dywedodd fod cefnogaeth ar gael i bobl oedd yn profi'r teimladau hyn, gan ychwanegu fod Llywodraeth Cymru yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw agwedd arall o'r gwasanaeth iechyd - sef cyfanswm o 拢700m y flwyddyn.
Dywedodd hefyd fod 拢3m ychwanegol yn cael ei glustnodi i ddarparu "help llaw" i bobl sy'n chwilio am waith neu lety parhaol ac i bobl sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.
Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Helen Mary Jones wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd 拢3m yn cael ei roi tuag at gwasanaethau iechyd meddwl - ond dywedodd nad mater ariannol yn unig ydoedd.
"Mae buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl bob amser yn mynd i gael ei groesawu ond nid yw bob amser yn ymwneud 芒'r arian, mae am y gwasanaeth iawn yn y lle iawn, pan fydd ei angen ar bobl," meddai.
"Yn sicr nid fy mhrofiad i fel aelod rhanbarthol o'r Senedd yw bod y gwasanaethau hynny bob amser ar gael pryd a ble maen nhw eu heisiau."
Esboniodd Eluned Morgan fod Llywodraeth Cymru yn "ceisio defnyddio'r amser yma yn ystod y cyfnod clo i gyflymu'r broses brofi" i sicrhau nad yw'r haint yn ymledu mewn cartrefi gofal.
Daw ei sylwadau ar 么l i staff cartrefi gofal ddweud wrth 91热爆 Cymru bod problemau gyda phrofion yn parhau i achosi pryder.
Dywedodd un rheolwr fod y sefyllfa yn "llanast", a'i bod "ar bigau'r drain" wrth aros am ganlyniadau sydd fel arfer yn cymryd tua phedwar diwrnod i ddod.
Ychwanegodd Ms Morgan fod mwy o risg i gartrefi gofal tra bod yr haint yn lledaenu o fewn cymunedau.
Dywedodd fod y llywodraeth yn awyddus i sicrhau bod y rhai sydd am ymweld 芒 phobl mewn cartrefi gofal "yn cael cyfle i wneud hynny".
"Dyna pam rydyn ni wedi creu arweiniad i sicrhau eu bod nhw'n gallu ymweld mewn ffordd ddiogel.
"Gwella'r profion hynny yw'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yn ystod y cyfnod cloi yma."