Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Rhai heb fentro o'u milltir sgw芒r ers mis Mawrth'
- Awdur, Iola Wyn
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Ar drothwy'r ail glo cenedlaethol, dyw rhai pobl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ddim wedi mentro o'u milltir sgw芒r ers y clo mawr ym mis Mawrth.
Yn 么l Comisiynydd Bobol H欧n Cymru, Hel茅na Herklots mae angen gweithredu ar frys i sicrhau fod cymorth a chefnogaeth ar gael, wrth i nifer wynebu heriau newydd yn y misoedd gaeafol nesaf.
Mae hwn yn dymor prysur fel arfer mewn cymunedau gwledig - o gyrddau diolchgarwch a chyfarfodydd Merched Y Wawr i weithgareddau'r Clybiau Ffermwyr Ifanc ac Aelwydydd Yr Urdd.
Mewn cymunedau bywiog, mae'r gweithgareddau hyn yn cael cefnogaeth pob cenhedlaeth.
Ac mae Lili Thomas o Benybont yng ngorllewin Sir G芒r yn hiraethu am gwmn茂aeth ieuenctid yr ardal.
'Colli sbort a sbri'
"'Na beth yw mywyd i 'di bod erioed, gyda bobol ifanc, a chefnogi popeth yn yr ardal," meddai. "Ac mae'n anodd iawn colli'r holl baratoadau o'n i arfer 'neud, y sgriptie a phethe ar gyfer y bobol ifanc yn y capel a'r gymuned.
"Ma' nhw'n tonic! Yr holl sbort a sbri mewn ymarferion - ac ma' colli hynny yn ddiflas iawn, iawn."
Mae Jean Lewis yn gynghorydd sir yn ardal Trelech, Sir G芒r, yn Llywydd Clwb Ffermwyr Ifanc y sir ac yn ysgrifennydd yn ei chapel.
Ar drothwy'r ail gyfnod clo cenedlaethol, mae ganddi bob ffydd yn yr ysbryd cymunedol.
"Mae'r cyngor sir wedi arwain y ffordd fel ein bod ni'n gwneud yn si诺r fod pobol yn gofalu am ei gilydd," meddai.
"Mae 'na hanes wedyn o bobol yn helpu ei gilydd. Dwi'n nabod llawer o bobol sy' ddim 'di mynd i unman ers Mawrth diwethaf.
"Dwi fy hunan ddim 'di bod i'r dre o gwbwl. Wrth reswm, ni'n pryderu am rai unigolion, yn enwedig gan fod y tywydd yn mynd i waethygu."
Methu ymweld 芒 ffrindiau
Er bod teulu agosaf Lili Thomas yn byw gerllaw, mae aelodau eraill y tu hwnt i gyrraedd ar hyn o bryd.
"Ma' nith 'da fi, a mae wedi cael crwt bach, a licen i groesawu fe i'r teulu. Ond 'wi ffili mynd i weld nhw ar hyn o bryd - mae hynny'n rhyfedd iawn. A hefyd, methu ymweld 芒 ffrindie sy' ddim mor iach."
Ond mae Linda Davies - merch Lili Thomas - yn cyfri' ei bendithion.
"Fydd Mam ddim yn cael y cyfle nawr i eistedd tu fas, achos ma' ffrindie a chymdogion wedi bod yn ffantastic yn y misoedd d'wetha', ond dwi ddim yn pryderu gormod," dywedodd.
"Ni'n lwcus bo' ni'n byw ar bwys, a hefyd mae hi'n cadw'n brysur. M'a tipyn o waith dal lan 'da be' ma' hi'n neud yn ystod y dydd, rhwng y coginio, a'r gweu a'r crosio.
"Ond fe fydd yn rhaid addasu ar gyfer y gaeaf... fe groeswn ni hynny pan ddaw e."
'Cadw i fynd'
A chadw'n brysur yw'r cyngor i bobl h欧n, yn 么l Lyndon Lloyd o Age Cymru Ceredigion.
"Cadw i fynd - patrwm i fywyd, fel o'dd hi s'lawer dydd," meddai. "A dyna be sy'n help i dorri ar yr unigrwydd."
Ac yn y dyddiau heriol hyn, mae ffrindiau ffyddlon yn werth y byd - a Llew y gath yn gwmni mawr i Lili Thomas.
"Mae e mo'yn sylw trwy'r dydd! Fe yw meistr y lle 'ma! A fi sy'n gorfod gwrando!"