Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwm Taf: Defnyddio ysbyty maes wedi 47 o farwolaethau Covid
Mae bwrdd iechyd sy'n brwydro yn erbyn nifer o farwolaethau sy'n gysylltiedig 芒 Covid-19 mewn tri o'i ysbytai yn paratoi i dderbyn mwy o gleifion i'w ysbyty maes ddydd Gwener.
Mae Cwm Taf Morgannwg wedi adrodd 47 o farwolaethau mewn ysbytai yn Llantrisant, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae gan y bwrdd iechyd fwy o gleifion coronafeirws nag ar unrhyw adeg ers i'r pandemig ddechrau, yn 么l ffigyrau GIG Cymru.
Dywedodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol聽Cwm Taf聽Morgannwg, bod yr "ysbytai'n ofnadwy o brysur ar y funud".
Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad.
Mae 38 o'r marwolaethau sy'n gysylltiedig gyda Covid-19 wedi eu cadarnhau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Mae nifer o wasanaethau arferol yr ysbyty eisoes wedi eu hatal dros dro, a bydd hynny'n parhau.
Ers dydd Iau, mae cleifion wedi bod yn cael eu trin mewn ysbyty maes - Ysbyty Seren ym Mhen-y-bont - am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig er mwyn rhyddhau rhywfaint o'r pwysau ar yr ysbytai.
O ran yr ysbytai eraill o fewn ardal y bwrdd iechyd mae pump o farwolaethau wedi eu cofnodi yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful, gyda 22 o achosion positif.
Yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr cafodd pedwar o farwolaethau eu cofnodi gyda 28 o achosion positif.
Ysbyty maes yn derbyn cleifion
Dywedodd llefarydd eu bod, mewn cydweithrediad gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, hefyd yn monitro'r sefyllfa yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Maesteg.
Mae yna 20 o achosion wedi eu cofnodi yn Ysbyty Cwm Rhondda.
"Mae fy nghydymdeimlad gyda'r staff sy'n parhau i weithio, ac sydd wedi bod yn gweithio ers misoedd bellach, o dan amgylchiadau hynod, hynod heriol ac anodd," meddai Dr Nick Lyons wrth 91热爆 Radio Wales fore Gwener.
"Rydyn ni wedi bod yn delio 芒'r achosion o Covid yn ein hysbytai ac铆wt, ac ar yr un pryd yn ceisio parhau i ddarparu'r holl lawdriniaethau sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw, y llawdriniaethau canser brys a'r holl bethau eraill y mae pobl yn eu disgwyl gan eu bwrdd iechyd lleol.
"Diolch byth, nid yw ein hunedau gofal dwys mor brysur nawr ag yr oedden nhw'n 么l ym mis Ebrill ond mae'r niferoedd yn eithaf heriol."
Ychwanegodd: "Ddoe am y tro cyntaf, yn ystod holl argyfwng Covid-19, fe aethon ni 芒 chleifion i'r ysbyty maes i dynnu'r pwysau oddi ar y safleoedd ac铆wt eraill sy'n caniat谩u inni wneud y gweithgaredd arall hwnnw.
"Mae hynny, wrth gwrs, wedi ymestyn y staff ymhellach oherwydd rydyn ni'n darparu gofal ar draws mwy o safleoedd a bydd mwy o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty maes heddiw.
"Rwy'n credu ein bod wedi paratoi ar gyfer y gwaethaf. A gadewch i ni obeithio y bydd y mesurau allweddol rydyn ni i gyd yn eu cymryd bob dydd yn llwyddo i ffrwyno cynnydd y clefyd gwirioneddol erchyll ac anodd hwn."
'Angen ymchwiliad brys'
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru yn Senedd Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb yn gyflym i'r sefyllfa sy'n datblygu ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, does dim amser i'w wastraffu, ac mae'n rhaid gweithredu.
"Mae angen gwarchod a chadw staff ysbytai'n ddiogel ac mae angen ymchwiliad brys i ganfod beth aeth o'i le, a sut i osgoi'r camgymeriadau hynny mewn mannau eraill."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig bod "cwestiynau difrifol sydd angen eu hateb".
"Rwy'n galw unwaith eto ar Vaughan Gething a Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad i'r sefyllfa drasig ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar unwaith," meddai Andrew RT Davies.