Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Myfyrwyr o Wynedd wedi'u heintio ar 么l noson yn Lerpwl
Mae Gr诺p Llandrillo Menai wedi cadarnhau bod pum myfyriwr wedi profi'n bositif am goronafeirws wedi i griw o fyfyrwyr sy'n astudio ar gampysau Dolgellau, Pwllheli a Glynllifon fynd ar noson allan gyda'i gilydd yn Lerpwl y penwythnos diwethaf.
O ganlyniad, bydd dau gr诺p bychan sy'n astudio Amaethyddiaeth a Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Glynllifon a Phwllheli yn cael eu dysgu o bell am bythefnos yn cychwyn 1 Hydref.
Mae'r gr诺p Lefel A (ail flwyddyn) ym Mhwllheli hefyd yn cael eu dysgu o bell am bythefnos ers ddydd Gwener. 聽
Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg聽Meirion-Dwyfor聽a Choleg聽Menai: "Rydym yn siomedig iawn fod carfan fach o fyfyrwyr wedi dewis anwybyddu canllawiau'r llywodraeth a theithio i Lerpwl i gymdeithasu y penwythnos diwethaf.
"Trwy hynny, fe wnaethant roi eu hunain mewn perygl, ond hefyd roi eu cyd-fyfyrwyr, teuluoedd a'u cymunedau dan risg.
"Hoffem sicrhau ein holl fyfyrwyr a'u rhieni ein bod wedi ymateb ar unwaith i'r digwyddiad hwn ac wedi cymryd pob rhagofal posibl i leihau unrhyw effaith bellach.
"Ers cychwyn y pandemig rydym wedi sefydlu gweithdrefnau a mesurau cadarn ar draws y Gr诺p i leihau'r risg o ledaenu'r haint er mwyn diogelu ein staff a'n dysgwyr gymaint ag y bo modd."
Ychwanegodd: "Mae'r ffaith nad ydym ond wedi gweld nifer gymharol fach o achosion Covid-19 positif ar ein campysau hyd yma yn awgrymu'n gryf fod y mesurau hynny'n effeithiol.
"Rydym yn cydnabod fod hwn yn gyfnod anodd iawn i'n myfyrwyr, ac mae'r mwyafrif llethol yn dilyn y canllawiau.
"Byddwn yn parhau i bwysleisio'r neges fod gennym oll ran i'w chwarae er mwyn ein cadw ein hunain ac eraill yn ddiogel trwy ddilyn camau fel pellhau cymdeithasol a gwisgo masgiau - boed hynny yn ystod oriau coleg ai peidio."
'Dilyn y rheolau i'r lythyren'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel mewn unrhyw achos lle mae rhywun wedi profi'n bositif am coronafeirws, bydd ein t卯m Profi, Olrhain a Diogelu mewn cyswllt gyda'r unigolion. Os ydi ein swyddogion yn cysylltu gyda chi, dilynwch y cyngor maent yn ei ddarparu a hunan-ynysu os bydd angen.
"Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o'r haint sydd wedi eu cadarnhau yng Ngwynedd wedi bod yn cynyddu, ac mae'r Cyngor yn gweithio gydag amrediad o bartneriaid i atgoffa trigolion ar draws y sir i chwarae eu rhan er lles eu teuluoedd, ffrindiau a'r gymuned leol.
"Gofynnwn felly i bobl Gwynedd i ddilyn y rheolau Covid-19 i'r lythyren er mwyn osgoi'r angen am gyflwyno rheoliadau a chyfnod clo lleol fel sydd eisoes yn ei le mewn nifer o ardaloedd eraill o Gymru ar hyn o bryd."