Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Brexit...be' sydd am ddigwydd nesaf?
Gydag amser yn mynd yn brin i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyrraedd cytundeb masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, gohebydd gwleidyddol 91热爆 Cymru Cemlyn Davies sy'n egluro'r camau nesaf a beth allai ddigwydd os nad oes cyfaddawdu.
Mae bywyd heddiw'n wahanol iawn o gymharu 芒 blwyddyn yn 么l. Tybed faint o'r arweinwyr ym Mrwsel fis Hydref diwethaf ar gyfer uwchgynhadledd dyngedfennol arall ar Brexit fyddai wedi gallu dychymygu'r newid byd oedd i ddod wrth i Covid-19 symud o un wlad i'r nesa.
Ac eto pan ddaw hi at Brexit ychydig iawn sydd wedi newid mewn gwirionedd. Ydyn, rydyn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn ond ar y cyfan mae'r hen drefniadau yn eu lle o hyd.
Ac yn union fel yr oedden ni ddeuddeg mis yn 么l, dyma ni unwaith eto'n paratoi ar gyfer uwchgynhadledd fawr arall ym Mrwsel yn wynebu'r posibilrwydd o ddiffyg cytundeb rhwng Llundain a Brwsel, ac yn clywed pob math o rybuddion am beth allai hynny ei olygu. Plus 莽a change.
Y llynedd cytundeb ar delerau'r ysgariad oedd yn y fantol; heddiw ceisio cytuno ar y berthynas fydd ganddyn nhw'n y dyfodol mae'r ddwy ochr.
Ac mae'n ras unwaith eto achos yn unol 芒'r cytundeb cyntaf hwnnw bydd y cyfnod pontio - gychwynnodd wrth i faner y Deyrnas Unedig gael ei gostwng ym Mrwsel fis Ionawr - yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, boed cytundeb masnach yn ei le ai peidio.
Beth fyddai pwrpas y cytundeb masnach?
Byddai'r cytundeb masnach yn gosod fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Mae hyn yn cynnwys sut bydd y ddwy ochr yn prynu a gwerthu eu nwyddau, sut y byddan nhw'n cydweithio mewn pob math o feysydd fel diogelwch, a hefyd sut y bydd pobl yn gallu symud n么l a mlaen o fis Ionawr nesa.
Beth os na fydd cytundeb?
Y gwir amdani yw bod llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch beth allai hyn ei olygu. Ond os na fydd cytundeb yna bydd masnach rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn digwydd ar delarau Sefydliad Masnach y Byd (WTO).
Mae hynny'n golygu y bydd tariffs yn cael eu cyflwyno ar bob math o allforion o Brydain sy'n mynd i'r cyfandir, er enghraifft treth bosib o 40% ar gig oen o Gymru.
Y ddadl yw y byddai hynny'n ei dro'n gwneud y cynnyrch yn ddrytach i gwsmeriaid Ewropeaidd ac felly'n llai cystadleuol.
Gyda 92% o holl allforion cig oen Cymru'n mynd i'r Undeb Ewropeaidd, mae undebau amaeth yn rhybuddio byddai diffyg cytundeb yn ergyd fawr i'r diwydiant yma.
Heb gytundeb masnach hefyd byddai angen gwirio mwy o wybodaeth ar y ff卯n ac mae yna bryderon gallai hynny arwain at dagfeydd hir ar y ffordd i borthladdoedd fel Caergybi.
Hyd yn oed os oes cytundeb bydd angen gwirio mwy o fanylion nag ar hyd o bryd ac felly mae mwy o oedi'n debygol beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau.
Mae yna rybuddion hefyd y gallai diffyg cytundeb greu mwy o waith papur ac arwain at gostau ychwanegol i bobl sydd eisiau teithio i Ewrop i fyw, i weithio neu hyd yn oed ar wyliau.
Ond er gwaetha'r pryderon sydd gan nifer, mae eraill gan gynnwys Boris Johnson yn mynnu y gall y Deyrnas Unedig ffynnu hyd yn oed os na fydd cytundeb.
Beth yw'r prif feini tramgwydd yn y trafodaethau?
Hawliau pysgota yw un o'r prif feini tramgwydd.
Mae'r Undeb Ewropeaidd yn dal i aros hefyd i'r Deyrnas Unedig gytuno i ddilyn rheolau i sicrhau na fydd busnesau Ewropeaidd o dan anfantais mewn unrhyw ffordd o gymharu 芒 busnesau yma.
Ac mae yna anghytuno o hyd am sut y dylid datrys unrhyw anghydfodau sy'n codi yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae parodrwydd Boris Johnson a'i gabinet yn ddiweddar i geisio mynd yn groes i rannau o'r cytundeb gwreiddiol wedi gwylltio swyddogion ym Mrwsel, gyda rhai'n gofyn nawr oes modd ymddiried yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Pa mor debygol yw hi y bydd cytundeb?
Mae'r ddwy ochr yn mynnu eu bod nhw eisiau cyrraedd cytundeb ond y byddan nhw'n barod hefyd os nad yw hynny'n digwydd.
Mae amser yn brin iawn. Cofiwch hyd yn oed os y daw'r gwleidyddion i gytundeb mae'n rhaid caniatau amser hefyd i gwblhau'r holl waith cyfreithiol fydd angen ei wneud cyn diwedd y cyfnod pontio er mwyn sicrhau bod popeth yn barod erbyn y 1af o Ionawr.
Dyna pam mae Boris Johnson wedi dweud bod yn rhaid cyrraedd cytundeb erbyn yr uwchgynhadledd nesaf ym Mrwsel ar y 15fed o Hydref.
Mae yna draddodiad ym Mrwsel o daro bargen ar yr unfed awr ar ddeg. Bydd yn rhaid i'r traddodiad hwnnw barhau os ydyn ni am weld cytundeb yn dod mewn pryd.
Hefyd o ddiddordeb