Ateb y Galw: Y telynor Dylan Cernyw

Ffynhonnell y llun, Dylan Cernyw

Y telynor Dylan Cernyw sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Gwenan Gibbard yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio aros yn t欧 Nain a Taid Llican ym Mae Colwyn. Oedda ni arfer treulio nosweithiau yna gyda fy nghefndryd - t欧 mawr tri llawr a B&B.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Simon Le Bon o'r gr诺p Duran Duran.

Disgrifiad o'r llun, Simon Le Bon - un o 'heart-throbs' yr 80au

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'm yn meddwl fod 'na ddim byd bellach! Rhy hen i boeni.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi'n berson eithaf emosiynol ac yn ddagreuol mewn ffilmiau a chaneuon. Ond yn ddiweddar gyda'r hyn sydd wedi digwydd yn y wlad o'n i'n cerdded o gwmpas Llandrillo yn Rhos yn gwrando ar y radio a ges i'n llorio gan drefniant Eirlys Myfanwy a C么r Lleisiau'r Cwm o'r Emyn Fel yr Hydd. O'n i yn fy nagrau ar ochr l么n gyda'r geiriau a threfniant.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Roeddwn i'n arfer poeni gormod am bethau dibwys, a dwi'n cnoi fy ewinedd.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Unrhyw noson yn Iwerddon - un o'n hoff lefydd tu allan i Gymru.

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

O'n i arfer cyd-rhedeg t欧 tafarn ar y Wirral, a dwi newydd gael tat诺.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le ydi adre, yma yn Nyffryn Conwy.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Bui Doi o Miss Saigon. Dwi heb weld y sioe, a does 'na ddim siawns yn y dyfodol agos, ond ar y funud trefniant The Welsh of the West End men gyda Steffan Rhys Hughes a'r hogie.

Ffynhonnell y llun, Steffan Rhys Hughes

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ffyddlon, bodlon a chefnogol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff film ydi Philomena gyda Judy Dench. Mae'n ffilm sydd yn dod 芒 dagrau, hiwmor ac yn stori mor drist. Dwi'n ddiog am ddarllen, er fod 'na lond gwlad o lyfrau yma.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Dwi'n meddwl gyda Harpo Marx i gael jamio gyda fo ar y delyn dros beint. Os ydi o ddim ar gael, Taid Llican fuodd farw pan o'n i'n ifanc i gael sgwrsio am hyn, llall ac arall.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Treulio'r noson gyda fy nheulu yn y Pen y Bryn ym Mae Colwyn, gydag Eden a Duran Duran yn canu yna, wrth gwrs.

Disgrifiad o'r llun, Tybed sut beth fyddai 'mash-up' o Paid 芒 Bod Ofn a Hungry Like the Wolf...?!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf: Brie deep fried gydag apricot chutney.

Prif gwrs: Salad cig eidion crispy gyda saws sweet chilli.

Pwdin: Cacen gaws.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Partner Russell Tovey, er mwyn cael treulio'r diwrnod gyda Russell wrth gwrs.

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Robat Arwyn