Coronafeirws: 34 o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae'r wardiau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi eu cau yn dilyn yr achosion

Mae nifer o achosion Covid-19 wedi eu cadarnhau yn ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn dilyn trosglwyddiad o fewn yr ysbyty.

Mae'r 34 o achosion mewn dwy ward yn yr ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod "camau cadarn" wedi eu cymryd i reoli'r ymlediad ac i ddeall beth ddigwyddodd.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod y mesurau'n cynnwys cau'r wardiau, cynyddu profi ymysg staff a chleifion, a lleihau ymweliadau.

Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething gyfeirio at yr achosion mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, ond dyma'r cadarnhad cyntaf fod rhai achosion wedi eu trosglwyddo o fewn yr ysbyty.

Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham o'r bwrdd iechyd bod tystiolaeth i awgrymu bod y lledaeniad wedi ei atal.