'Ffordd bell i fynd' i chwalu stigma ynghylch dementia

Ffynhonnell y llun, Prydwen Elfed-Owens

Disgrifiad o'r llun, Mae Prydwen Elfed-Owens a'i g诺r Tom wedi gwahanu ond ei dymuniad hi oedd gofalu amdano

Dywed dynes o Sir Ddinbych sy'n gofalu am ei g诺r sydd 芒 dementia ei bod yn credu fod y stigma sy'n gysylltiedig 芒'r cyflwr yn parhau.

"Mae pethau wedi gwella yn sicr," meddai Prydwen Elfed-Owens o Drefnant ond "mae ffordd bell i fynd a rhaid dysgu mwy o brofiadau da a sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa ar y profiadau hynny."

Ddydd Llun, ar Ddiwrnod Alzheimer's y Byd, bydd cyfrol gan Dr Elfed-Owens yn cael ei lansio tu allan i ganolfan Gofal Dydd y Waen, Llanelwy - lle bu hi'n mynd 芒'i g诺r yn wythnosol cyn iddo orfod mynd i gartref gofal ym Mehefin 2019.

Ar gyfer y gyfrol, Na ad fi'n angof: Byw 芒 dementia mae Dr Elfed-Owens wedi gofyn i nifer o ofalwyr eraill rannu eu profiadau.

Mae'n dweud bod rhannu profiad yn hynod bwysig ond "bod rhai teuluoedd yn gyndyn i rannu profiadau am eu bod am warchod eu hanwyliaid a nhw eu hunain rhag y stigma sy'n gysylltiedig 芒 dementia".

'Anfonwyd angel'

Dangosodd g诺r Prydwen Elfed-Owens, Tom, arwyddion o ddementia bum mlynedd yn 么l ac er bod y ddau wedi gwahanu a hithau 芒 chymar newydd roedd hi am edrych ar ei 么l am ei fod wedi bod yn gymaint o ran o'i bywyd.

"I ddechrau, beth roeddwn i'n ei weld oedd ei fod yn colli arni i ddweud y gwir a wyddwn i ddim pam. Roeddwn i'n meddwl mai ei bersonoliaeth o oedd o, meddwl bod rhywbeth wedi digwydd iddo yn ei blentyndod neu ar y m么r yn ystod y rhyfel.

"Doeddwn i ddim yn gwybod at bwy i droi.

"Pan ddywedodd rhywun o'r gwasanaethau cymdeithasol wrtha'i bo fi angen help, mi griais yn hidl.

"Pan 'nes i gyfarfod ag asesydd anghenion gofalwyr yn Sir Ddinbych - 'nes i wir deimlo ystyr y geiriau 'Anfonwyd Angel'. Hi oedd yr angel oedd yn fy ngwarchod i tra roeddwn i'n gwarchod fy ng诺r."

'Yn bwysig siarad'

Ychwanega Dr Elfed-Owens bod ei phrofiad hi wedi cyflwyno darlun iddi o'r hyn a ddylai ddigwydd pan fo teulu yn byw 芒 dementia.

Ffynhonnell y llun, Prydwen Elfed-Owens

Disgrifiad o'r llun, Mae Tom yn cael pob gofal, medd Prydwen Elfed-Owens, ond rhaid sicrhau bod gofal o'r fath ar gael i bawb

"Doeddwn i ddim wedi bwriadu ysgrifennu llyfr," meddai, "ond dwi'n awyddus i rannu fy mhrofiad i a sawl gofalwr arall - profiadau a fydd gobeithio o fudd i ofalwyr eraill sy'n dechrau ar lwybr dementia.

"Mae'n bwysig iawn siarad," meddai, "ac elwa o brofiadau eraill er mwyn cael y gwasanaethau gorau ar draws Cymru.

"Dwi wir yn credu bod y stigma yn parhau. Er bod gan gapeli, cymdeithasau a busnesau bolisi 'dementia gyfeillgar' - dydyn nhw ddim wastad yn deall. Rhaid cael gwared ar unrhyw stigma unwaith ac am byth fel bod pobl yn gallu rhannu profiadau anodd.

"Rhaid hefyd ceisio sicrhau gofal Cymraeg i Gymry sy'n byw 芒'r cyflwr a sicrhau bod yna wasanaeth sy'n rhoi seibiant i ofalwyr ym mhob rhan o Gymru.

"Pan mae rhywun yn ei chanol hi a'i ben yn yr injan - yn trio byw a gofalu am rywun arall - mae'n gallu bod yn anodd."

Ffynhonnell y llun, Prydwen Elfed-Owens

Disgrifiad o'r llun, Tom Elfed-Owens yn coginio yng nghanolfan Gofal Dydd y Waen

Bydd elw'r gyfrol yn mynd at Gofal Dydd y Waen, capel Waengoleugoed yn Llanelwy - capel sydd wedi bod, cyn cyfyngiadau Covid, yn cynnig gofal dydd er mwyn rhoi ysbaid i ofalwyr.

"Byddai'n dda petai mwy o gapeli ac eglwysi yn cynnig gwasanaeth o'r fath," ychwanegodd Prydwen Elfed-Owens.

Yn ystod yr wythnos hon mi fydd nifer o raglenni ar Radio Cymru yn rhoi sylw i'r cyflwr.

Yn 么l ffigyrau Cymdeithas Alzheimer's Cymru, mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru.