Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pwysau'r gaeaf: 5,000 gwely ysbyty a tharged brechu 75%
Bydd 5,000 o welyau ysbyty ychwanegol - hanner mewn ysbytai maes - i ymdopi 芒 phwysau'r gaeaf, gan gynnwys y posibilrwydd o ail don o Covid-19.
Wrth amlinellu , dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod disgwyl i'r gaeaf fod yr "anoddaf eto".
Mae'r capasiti ychwanegol yn bodoli er mwyn delio 芒'r sefyllfa waethaf posib.
Yn y cyfamser, bydd y brechlyn ffliw ar gael i holl deuluoedd pobl sydd ar y rhestr gwarchod.
Heb gymryd camau ym mis Mawrth, meddai'r Gwasanaeth Iechyd, mae'n bosib y bydden nhw wedi gorfod delio 芒 100,000 o dderbyniadau i'r ysbyty, yn ogystal 芒 "nifer sylweddol iawn o farwolaethau".
Dywedodd y prif weithredwr, Dr Andrew Goodall: "Os oes ail big, mae'n rhaid bod capasiti ar gael."
Beth am yr ysbytai maes?
Bydd rhagor o fanylion am batrwm ysbytai maes yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.
Sefydlwyd y rhwydwaith yn wreiddiol i ddarparu 6,000 o welyau ychwanegol i ymdopi 芒'r sefyllfa waethaf posib.
Ar gyfer y gaeaf yma, bydd rhai o'r 17 o ysbytai maes hynny sydd eisoes ar waith yn parhau, tra bydd modd i eraill sydd ddim eu hangen mwyach ddychwelyd at eu hen ddefnyddiau.
Eisoes rydym ni'n gwybod y bydd yr ysbyty yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, sydd 芒 2,000 o welyau, yn cael ei ddadgomisiynu, gydag uned 400 gwely gwerth 拢33m yn cael ei hadeiladu ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.
Bydd ysbyty maes Bay Studios yn Abertawe yn parhau, a bydd y gwelyau ychwanegol ar gael i fyrddau iechyd cyfagos os oes angen.
Gallai ysbytai eraill gael cyfleusterau dros dro ar y safle.
"Yn anffodus, mae llawer o bobl wedi colli anwyliaid o ganlyniad i Covid-19. Mae atal mwy o deuluoedd rhag profi trychineb o'r fath yn hollbwysig wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau," meddai Mr Gething.
Dywedodd fod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd barhau i fod yn wyliadwrus, gyda gwasanaethau'n gallu ymateb "yn gyflym ac yn hyblyg i amgylchiadau sy'n newid".
Beth am gartrefi gofal?
O ran cartrefi gofal, dywedodd y gweinidog: "Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ac amddiffyn staff a phreswylwyr er mwyn osgoi, os yw'n bosibl, gorfod cymryd y mesurau eithafol yr oedd eu hangen ym mis Mawrth."
Mae'r cynlluniau hefyd yn dweud er y gallai cyfnodau clo lleol gyfyngu ar ymweliadau, bydd "rhaid i wasanaethau iechyd a chymdeithasol wneud yr hyn sy'n bosib i annog a bod yn greadigol yn y ffordd rydym yn defnyddio dulliau cyfathrebu eraill fel y gall teuluoedd gadw mewn cysylltiad".
Beth am frechiadau?
Mae targed o 75% wedi'i bennu ar gyfer brechiadau rhag y ffliw i'r rhai sy'n fregus, yn ogystal 芒 gweithwyr iechyd a chymdeithasol.
Yn ogystal 芒 phobl sy'n cael eu gwarchod, bydd yn cael ei gynnig i'w teuluoedd agos.
Os bydd stociau'n caniat谩u, bydd hefyd yn cael ei gynnig i bawb dros 50 oed.
Os a phan fydd brechlyn Covid-19 ar gael, dywedodd GIG Cymru fod cynlluniau ar waith i'w gyflwyno mor gynnar 芒 mis Tachwedd - a fyddai'n ymwneud 芒 gwahanol staff y GIG mewn gwahanol leoliadau.
Beth am drin salwch arall, fel canser?
Mae GIG Cymru hefyd am sicrhau bod ardaloedd ar wah芒n mewn ysbytai, fel y gall triniaeth arferol barhau. Ond mae'r gwasanaeth yn cydnabod os daw ail don o Covid-19 yr un pryd a phwysau eraill y gaeaf, yna efallai y bydd yn rhaid gohirio triniaethau rheolaidd.
"Mae ein galwadau 999 mwy neu lai yn 么l i'r arfer, ac mae derbyniadau achosion brys yn dychwelyd i lefelau arferol, ac mae gofal sylfaenol yn brysur iawn," meddai Dr Goodall.
Dywedodd fod pryder o hyd am wasanaethau hanfodol fel canser a chleifion eraill ar restrau aros.
"Fe wnaethom ni flaenoriaethu canser o'r cychwyn cyntaf," meddai.
"Mi oedden ni'n poeni pan ollyngodd atgyfeiriadau tua 60% yn gynnar [yn y pandemig].
"Mae atgyfeiriadau wedi cynyddu i lefelau sy'n uwch nag y byddwn fel arfer yn disgwyl eu gweld, ond mae triniaethau canser ychydig yn is o hyd nag y byddwn yn disgwyl eu gweld.
"Mae angen i ni wneud yn si诺r ein bod yn gweithio drwy gynllun i ddelio 芒 phobl ar restrau aros."