Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Senedd Cymru: Gr诺p o ASau yn galw am gael 20-30 yn fwy o aelodau
Mae pwyllgor gafodd ei foicotio gan y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Brexit wedi argymell y dylai'r Senedd gael 20 i 30 o wleidyddion ychwanegol.
Mae'r gr诺p, sy'n cynnwys aelodau Llafur a Phlaid Cymru, hefyd yn galw am fabwysiadu system fwy cyfrannol ar gyfer etholiadau 2026.
Bu galwadau ers tro gan rai i ehangu maint Senedd Cymru - sydd 芒 60 o aelodau - ac mae canfyddiadau pwyllgor y Senedd sydd wedi bod yn edrych ar y mater wedi dod i'r un casgliad.
Ond gyda'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthod cymryd rhan yng ngwaith y pwyllgor o'r cychwyn cyntaf a'r Blaid Brexit yn tynnu ei chefnogaeth yn dilyn ffrae gyda'r cadeirydd, does dim consensws trawsbleidiol ar y mater.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Dawn Bowden, fod angen gwneud mwy er mwyn cael consensws.
Tra bod Plaid Cymru yn cefnogi'r argymhellion mae Llafur Cymru wedi gwrthod dweud lle maen nhw'n sefyll ar y mater.
Dywedodd Ms Bowden ei bod yn rhwystredig iawn nad oedd hi'n gallu cyflwyno adroddiad trawsbleidiol, a bod hi'n siomedig na wnaeth y Ceidwadwyr gymryd rhan.
Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld y prif egwyddorion o'r argymhellion yn cael eu cynnwys ym maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad nesaf.
Byddai angen cefnogaeth o leiaf 40 o ASau er mwyn sicrhau deddfwriaeth newydd fyddai'n gweithredu'r argymhellion.
Y cefndir
Penderfynodd panel o arbenigwyr gafodd ei sefydlu yn 2017 i argymell creu rhwng 20 a 30 o aelodau newydd.
Cafodd y panel ei sefydlu yn dilyn datganoli mwy o rymoedd deddfwriaethol i Bae Caerdydd.
Ond ni chafodd yr argymhelliad ei gymeradwyo gan y Llywodraeth Lafur ar y pryd.
Cafodd Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ei sefydlu mewn ymdrech i ddod o hyd i gonsensws trawsbleidiol.
Gwrthododd y Ceidwadwyr 芒 chymryd rhan, ac fe wnaeth Plaid Brexit dynnu n么l yn dilyn ffrae rhwng David Rowlands a Ms Bowden.
Ymateb y pleidiau
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae coronafeirws dal yma. Mae ein ffocws yn llwyr ar sicrhau ymateb gofalus i'r pandemig."
Yn 么l arweinydd Plaid Cymru Adam Price "mae ein Senedd yn rhy fach ac mae hynny'n cynrychioli her fawr i iechyd ein democratiaeth."
Dywed Plaid Brexit eu bod yn gwrthwynebu yn gryf unrhyw gynnydd ym maint Senedd Cymru.
Dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Mae hwn yn adroddiad sy'n cynrychioli dim ond barn dwy blaid yn Senedd Cymru, ac ar hyn o bryd does yna ddim awch cyhoeddus i gynyddu nifer y gwleidyddion."