Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cannoedd mewn protest newid hinsawdd yng Nghaerdydd
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 91热爆 Cymru
Mae cannoedd o brotestwyr ymgyrch Extinction Rebellion wedi ymgynnull ym Mharc Bute cyn gorymdaith i swyddfeydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym Mae Caerdydd.
Daw ar ddechrau wythnos o weithredu gan y gr诺p ledled Prydain i alw am weithredu cyflymach i leihau allyriadau nwyon t欧 gwydr a mynd i'r afael 芒 newid hinsawdd.
Eu prif ofyn yw i Lywodraeth y DU gyflwyno Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, gyda thargedau llymach ar gyfer lleihau allyriadau a diogelu natur tra'n cadw'r cyhoedd yn rhan o'r broses.
Yn ystod areithiau cyn yr orymdaith rhybuddiwyd protestwyr i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd, i wisgo masgiau ac i lanhau eu dwylo'n rheolaidd.Mae swyddogion yr heddlu wedi'u gosod o amgylch y dorf yn cadw golwg ar y digwyddiad.