Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Neges gwirfoddolwyr sy'n clirio sbwriel ymwelwyr Eryri
"Mae'n rhaid i bethau newid" medd gr诺p amgylcheddol sy'n cael cymorth gwirfoddolwyr yr haf hwn i glirio sbwriel ar fynyddoedd Eryri.
Bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul ym misoedd Gorffennaf ac Awst eleni, mae'r gwirfoddolwyr wedi helpu Cymdeithas Eryri trwy gyfarch ymwelwyr a rhoi gwybodaeth a chyngor fel rhan o ymgyrch i'w croesawu'n 么l i'r ardal wedi'r cyfnod clo caeth ddaeth i rym ym mis Mawrth.
Ond maen nhw hefyd wedi casglu sbwriel yn rhannau'r parc cenedlaethol sy'n denu'r nifer fwyaf o ymwelwyr - gan gynnwys Llwybr Llanberis holl ffordd at gopa'r Wyddfa, maes parcio a theithio Nant Peris ac ardal Llyn Ogwen.
Maen nhw'n amcangyfrif hyd yma bod tua 200 o fagiau o sbwriel wedi'u casglu yn y ddeufis diwethaf.
Mae llawer o'r bagiau mewn adeilad ger canolfan Hafod Eryri ar gopa'r Wyddfa, ble bydden nhw'n cael eu cario i orsaf Rheilffordd Eryri a'u cludo i'r gwaelod ar y tr锚n.
Mae yna amcangyfrif fod tua 600,000 o bobl yn ymweld 芒'r Wyddfa bob blwyddyn, ac er mai lleiafrif bach sy'n tramgwyddo, golyga'r niferoedd cynyddol o ymwelwyr fod sbwriel yn broblem sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn.
Dywed Dan Goodwin o Gymdeithas Eryri eu bod "yn dal yn dod o hyd i lawer o sbwriel y diwrnod wedyn" hyd yn oed wedi tridiau o'i gasglu.
Ymhlith y pethau sy'n cael eu gadael yn aml mae clytiau babi, ysgarthion dynol a chrwyn banana.
"Mae pobl yn dal heb syniad o'r broblem," meddai Mr Goodwin, gan egluro bod hi'n cymryd tua dwy flynedd i groen banana bydru'n llwyr. "Bydde pobl sy'n gollwng crwyn banana ddim yn dychmygu gollwng potel blastig."
Mae'n dweud mai'r ateb, yn hytrach na threfnu mwy o finiau, yw addysgu pobl i fynd 芒'u sbwriel adref gyda nhw.
"Os ydach chi'n mynd ag unrhyw beth i fyny'r mynydd, rydan ni'n disgwyl ichi ddod ag o yn 么l i lawr gyda chi," meddai.
Roedd Judy Boddington, o Ddyffryn Conwy, ymhlith y bobl yn clirio llanast ymwelwyr yn Llanberis ddydd Llun G诺yl y Banc.
"Mae'n rhwystredig ond os na wnawn ni, mae jest yn cael ei adael," meddai.
"Mae'n dorcalonnus... mae yna anifeiliaid yma, yn ogystal 芒 phobol, ac mae'n drueni bod nhw'n dinistrio'r amgylchedd lleol.
"Sut fasen nhw'n licio petawn ni mynd a gadael sbwriel ble maen nhw'n byw? Mae'n drueni, ac mae'n cadw pobl eraill draw pan maen nhw'n gweld y sbwriel.
"Dydyn nhw ddim yn ei licio fo ar lan m么r... felly pam wneud o yn fan hyn?"