Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor i deithwyr o Zante i Gaerdydd i hunan-ynysu
Mae teithwyr oedd ar awyren oedd yn teithio o un o ynysoedd Groeg i Gymru yn cael cyngor i hunan-ynysu wedi i rai oedd ar ei bwrdd gael prawf positif o haint coronafeirws.
Dywed swyddogion iechyd bod saith o bobl o dri gr诺p gwahanol ar hediad Tui 6215 o Zante i Gaerdydd ddydd Mawrth wedi cael prawf Covid-19 positif.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn cysylltu 芒 gweddill y teithwyr.
Dywed Dr Giri Shankar o ICC eu bod yn "annog pob teithiwr ar yr daith i hunan-ynysu am eu bod yn cael eu hystyried yn gysylltiadau agos.
"Byddwn yn cysylltu 芒'r teithwyr yn fuan ond yn y cyfamser rhaid iddynt hunan-ynysu adref gan y gallant fod yn heintus heb ddatblygu symptomau."
Ychwanegodd Dr Shankar y dylai "unrhyw un sydd 芒 symptomau archebu prawf ar unwaith".
Does yna'r un farwolaeth wedi'i chofnodi yng Nghymru dydd Sul ond mae 56 achosi newydd wedi'u cofnodi.