Covid-19: Dim mwy o farwolaethau ond 56 achos newydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Does dim rhagor o farwolaethau o haint coronafeirws yng Nghymru yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Ond mae 56 achos newydd wedi'u cofnodi sy'n golygu bod 17,973 o bobl bellach wedi cael prawf positif.

Mae'r achosion newydd wedi'u cofnodi ar draws Cymru a dim ond pedwar cyngor sydd ddim wedi cofnodi achos newydd sef Ynys M么n, Blaenau Gwent, Conwy a Merthyr.

Mae nifer y bobl sydd wedi marw o'r haint yn 1,595 a nifer y rhai sydd wedi'u profi yn 331,223 gyda 313,250 yn cael prawf negatif.

Mae ffigyrau ICC yn cynnwys marwolaethau mewn ysbyty yn bennaf a dim ond yn cynnwys achosion lle mae'r haint wedi'i gadarnhau mewn prawf labordy.

Dyw'r ffigyrau ddim yn cynnwys marwolaethau trigolion o Bowys mewn ysbytai yn Lloegr er bod rhain yn cael eu cynnwys yn nata y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.