Covid: Blwyddyn heriol i bobl ifanc y maes iechyd

Ffynhonnell y llun, Eli Wyatt

  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 91热爆 Cymru

Fe fydd sawl person ifanc yn ystyried gwanwyn a haf 2020 fel cyfnod lle cafodd eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol eu hatal neu eu gohirio.

Yn ystod y cyfnod clo roedd drysau ysgolion a cholegau ar gau, fe gafodd gwyliau a theithiau eu gohirio, fe gollodd nifer eu swyddi a bu'n rhaid i eraill orfod oedi eu gyrfaoedd.

Ond cafodd y pandemig effaith dra gwahanol ar gynlluniau cannoedd o bobl ifanc sydd am ddilyn gyrfaoedd ym maes iechyd.

Yng Nghymru fe wnaeth tua 3,000 o fyfyrwyr oedd yn astudio nyrsio, bydwreigiaeth, ffisiotherapi a phynciau iechyd eraill, ynghyd 芒 tua 130 o fyfyrwyr meddygol, ateb galw'r gwasanaeth iechyd i weithio yma yn ystod y cyfnod.

Ac yn 么l arbenigwyr roedd eu cyfraniadau yn amhrisiadwy yn yr ymdrech i ddelio 芒'r argyfwng mwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd.

Dyma rai o'u straeon.

Ffynhonnell y llun, Eli Wyatt

Eli Wyatt

Myfyrwraig Feddygol 5ed flwyddyn

Ysgol Feddygol Caerdydd

Lleoliad: Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan

Lle'r oeddet ti ddechrau'r flwyddyn?

O'n ni ar 'elective', sef cyfnod ar ddiwedd y cwrs lle mae cyfle i wirfoddoli dramor - felly es i i Affrica i wneud hynny. O'n i'n helpu mewn clinig gwledig yn Namibia lle roedd 'na lot o blant oedd yn malnourished. O'dd 'na lot o TB a HIV yno.

Pan ddaeth hi'n amlwg fod Covid ar y ffordd roedd y flights yn cael eu canslo ac oedden nhw yn dechrau cau'r ffiniau felly fe benderfynes i ddod 'n么l cyn mynd yn styc yno.

Yn ystod y daith n么l oeddwn i'n cael e-byst a negeseuon o'r coleg yn cynnig cyfle i ni ymuno 芒'r NHS yn gynnar.

I fi doedd dim cwestiwn - oeddwn i eisio helpu ac roedd y teulu yn gwybod bo' fi eisiau gwneud.

Roedd dechrau'n gynnar yn Ysbyty Glan Clwyd - lle oeddwn i fod i ddechrau ym mis Awst - hefyd yn datrys rhywfaint o broblem i ni adref.

Roedd ein cartref wedi dioddef llifogydd ddwywaith yn ddiweddar felly mae'r teulu ar hyn o bryd yn byw mewn carafanau yn yr ardd. Felly doedd dim lot o le i fi eniwe!

Roedd hynny hefyd helpu'r gyda'r dewis!

Ffynhonnell y llun, Eli Wyatt

Disgrifiad o'r llun, Treuliodd Eli gyfnod yn Namibia mewn clinig gwledig cyn gorfod dod adre'n gynnar oherwydd coronafeirws

Beth oedd dy waith di yn ystod y cyfnod?

Nes i ddechrau yn Ward 14 sef y ward str么c am ychydig wythnosau yna nes i gael Covid.

Ar 么l gwella es i weithio ar Ward 11 sef un o wardiau Covid yr ysbyty.

Oedd 'na lot o gleifion yn s芒l iawn, o'dd e bach yn overwhelming weithiau. Ond roedd y staff 'na yn anhygoel a naethon ni ddod i nabod ein gilydd yn rili dda.

Roedd 'na rai dagrau, yn enwedig ar 么l i ni siarad 芒 theuluoedd a bob dim. Roedd hynna'n anodd iawn. Ond oedd 'na amseroedd hapus hefyd wrth i ni wella pobl, gyrru nhw adra i'w teuluoedd. Ac roedden ni gyd yn cefnogi'n gilydd.

Nes i gychwyn yn neud jobiau 'sgrifennu, siarad 芒 theuluoedd ar y ff么n. Ar 么l magu hyder nes i ward rounds, gweld cleifion, siarad 芒'r cleifion fwy, ordro profion, tynnu gwaed - pob math o bethau.

I sawl person ifanc ma' hon wedi bod yn 'flwyddyn goll' - i ti y gwrthwyneb sy'n wir ...

Dwi'n meddwl fod o wedi adio i'm mhrofiad i. Roedd o'n anodd i ddechrau ond dwi ddim yn difaru o gwbl.

Dwi'n gobeithio y bydd modd i fi ddefnyddio'r sgiliau nes i ddatblygu dros y cyfnod Covid yn ystod fy ngyrfa.

Ac mae gen i ffrindiau newydd r诺an fyddai byth yn anghofio.

Beth nesaf?

Rwy' eisoes wedi dechrau yn ffurfiol fel meddyg iau yn uned blant Ysbyty Glan Clwyd.

Os da ni'n cael ton arall o Covid da ni bach fwy hyderus tro ma ar 么l bod drwyddo fo ac yn fwy parod os ma fo'n dod. Ond ry'n ni'n ofni hefyd - felly teimladau cymysg.

Ond yn sicr mae'r cyfnod diwethaf wedi 'ngwneud i'n fwy si诺r nag erioed fy mod i wedi dewis yr yrfa iawn, er oeddwn i ddim wir yn amau yn y lle cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Megan Ware

Megan Ware

Myfyrwraig Nyrsio 2il flwyddyn

Prifysgol De Cymru

Lleoliad: Ysbyty Treforys

Lle'r oeddet ti ddechrau'r flwyddyn?

Ro'n i'n paratoi ar gyfer asesiadau ac arholiadau, yn ffocysu ar wneud gwaith y brifysgol ac yn paratoi i fynd ar leoliad chwech wythnos - mwy na thebyg yn y gymuned oherwydd fy niddordeb mewn anableddau dysgu.

Ond wedyn pan oedd Covid yn cyrraedd gaethon ni e-bost a constant updates o'r brifysgol yn gofyn a fydden ni'n optio mewn neu optio mas neud placement estynedig, ac o'n i'n cael rhoi dewis cyntaf ag ail ddewis.

Ac oedd diddordeb mawr gyda fi fod yn nyrs liaison anabledd dysgu mewn ysbyty mawr, felly ges i fynd i Dreforys.

Mae'r amseroedd yma yn hollol ddigynsail felly doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. O'dd ofn da fi. 'Wi'n eitha' lwcus bo iechyd fi'n iawn ac iechyd teulu fi'n iawn felly o'dd dim risgs fel hynny. Ac o'n i wir mo'yn helpu. Do'n i ddim wedi meddwl ddwywaith am y peth.

Disgrifiad o'r fideo, 'Fi 'di dysgu lot o bethau a datblygu sgiliau a hyder'

Beth oedd dy atgofion pennaf o'r cyfnod?

Roedd cyfnodau heriol a chymhleth.

I bobl 'da anableddau dysgu ma' lot yn gweld e'n galed i ddeall beth sy'n mynd 'mlaen - yn amlwg ma' gweld rhywun mewn mwgwd yn ofnus i unrhyw un. Ond i bobl ag anableddau dysgu ma' nhw ddim cweit yn deall pam. Pam bo pobl yn gwisgo mygydau? Pam nad yw'r teulu yn gallu dod mewn i'w gweld nhw? Felly rhan bwysig y r么l yw cyfathrebu gyda'r unigolion 'ma ag esbonio beth sy'n digwydd a pham.

O'dd lot fawr o staff yn mynd off yn dost. O'dd yr ysbyty ei hunan ddim yn brysur oherwydd bod pobl yn ofn dod mewn ond oedd adrannau yn brysur.

Wedi dysgu lot fawr o bethau gwahanol, datblygu sgiliau a hyder. Ambell waith fi'n berson swil ond mae e wedi adeiladu fy hyder i a pharatoi fi 100% ar gyfer fy ngyrfa.

Rwy wedi joio'r profiad er bod hwnna'n swnio'n od. Helpu pobl rwy am wneud.

Dwy'n gweld fy hunan yn ffodus mewn ffordd.

Oedd 'na ddagrau?

Ro'dd un fenyw wedi marw pan oeddwn i gyda hi. Roedd hwnna wedi dangos realiti y r么l.

Ond oedd e'n fraint i fi jyst gallu bod 'na i ddal dwylo'r fenyw 'na oherwydd o'dd lot fawr o'r teulu ddim wedi gallu bod 'na oherwydd y pandemig.

Beth nesaf?

Dechre fy nhrydedd flwyddyn ar y cwrs yn fwy pendant nag erioed bo fi di neud y dewis cywir.

Ffynhonnell y llun, Sophie Jones

Sophie Jones

Myfyrwraig Bydwreigiaeth 3edd Flwyddyn.

Prifysgol Caerdydd

Lleoliad: Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin

Lle'r oeddet ti ddechrau'r flwyddyn?

Ro'n i adre yng Ngorsgoch yn 'sgrifennu y dissertation - y gwaith cwrs ola' - yna daeth lockdown.

O'n nhw'n annog ni i fynd allan i weithio i helpu'r staff.

Ges i e-bost wrth y brifysgol yn dweud y bydden nhw'n trio cael lle i fi yn yr ysbyty lle oeddwn i'n gobeithio cael gwaith yn y pendraw, ac oeddwn i'n gobeithio cael swydd yn Ysbyty Glangwili.

Felly fi 'di bod yn Ysbyty Glangwili ers mis Ebrill.

Beth oedd dy atgofion pennaf?

Yn amlwg yn amser pryderus i bawb ond o'n i rili eisiau bod yn rhan o'r gwaith caled.

Do'dd dim rheswm gyda fi i beidio mynd mas i weithio. Do'dd dim problemau iechyd 'da fi ac o'dd yn nheulu yn hapus bo fi'n gallu mynd i Ysbyty Glangwili ac aros adref.

Ma' pethau wedi newid i fenywod beichiog. Ni'n gorfod holi am symptomau cyn iddyn nhw ddod. O'n ni'n checio tymheredd pawb.

Dyw'r partneriaid ddim yn gallu dod mewn am gyfnod cyn y geni. Dim ond yn ystod geni allan nhw fod 'na.

Ac unwaith ry'n ni'n barod i symud y fenyw a'r babi n么l i'r ward yn anffodus dyw'r partneriaid ddim yn gallu mynd n么l i'r ward.

Ffynhonnell y llun, Sophie Jones

O'dd hwnna'n rili anodd i bob un oherwydd mae'n amser mor spesial i bob teulu ac mae'r partneriaid yn colli peth o'r amser 'na.

Roedden ni'n trio yn galed i roi cymorth ychwanegol i'r mamau, y gefnogaeth fyddai'r partner wedi rhoi, i helpu gyda'r bwydo, popeth rili.

Ond amser anodd os ydyn nhw'n gorfod aros mewn am rai dyddiau ar 么l geni. Er hynny roedd rhai shifftiau yn spesial.

Rwy'n un o efeilliaid a jyst dros y penwythnos ges i ofalu am fenyw gafodd efeilliaid am y tro cyntaf. Fydd y profiad yna yn aros yn y cof am byth!

Fyddai lot o weithwyr iechyd wedi treulio gyrfaoedd cyfan heb weld pandemig - ydych chi mewn sefyllfa gryfach nawr i wynebu eich gyrfa?

O'dd e ddim yn rhywbeth nes i erioed ddychmygu fyddai'n digwydd. Ond os allai weithio trwy pandemig gobeithio byddai'n gallu gweithio heb bandemig

Sa'i 'di cael unrhyw brofiad sy' wedi gwneud fi gwestiynu fy newis o yrfa. Dwi 'di cael mwy o brofiadau sy' 'di neud i mi deimlo dyma'r peth iawn i fi.

Dwi wedi bod yn rili lwcus.

Lle nesaf?

Gweithio yng Nglangwili!

Oherwydd fy mod i ym mlwyddyn ola'r cwrs, yng nghanol popeth i gyd oeddwn i'n gorfod edrych am swydd. Ac o'n i'n rili ffodus bod swyddi wedi dod lan yn Ysbyty Glangwili a ges i gynnig swydd ar 么l cyfweliad.