Profiadau'r Cymry o gyfnod clo arall ym Melbourne

Ffynhonnell y llun, EPA

Disgrifiad o'r llun, Mae cyrffyw yn rhan o'r cyfyngiadau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno ym Melbourne

Mae rhai o'r Cymry sy'n byw yn ninas Melbourne, Awstralia, wedi bod yn s么n am y sefyllfa yno yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion coronafeirws yn ddiweddar.

Cyhoeddodd llywodraeth Awstralia stad o drychineb (State of Disaster) ddydd Sul, a bellach mae'r ddinas a thalaith Victoria o dan gyfyngiadau llym i geisio atal yr haint.

Roedd Awstralia wedi bod yn weddol llwyddiannus wrth ddelio efo'r don gyntaf o Covid-19, ond mae rhai yn credu fod y rheolau wedi cael eu llacio'n rhy gyflym, ac mai dyna yw'r rheswm bod mwy o achosion.

Mae Huw Taylor, sy'n wreiddiol o Langefni, yn beiriannydd sifil ac yn byw ym Melbourne, ail ddinas fwyaf Awstralia.

Llacio rheolau'n rhy fuan

Dywedodd fod nifer o bobl wedi rhagweld y byddai'r sefyllfa'n gwaethygu wrth i'r rheolau gael eu codi.

"Y teimlad gan bawb oedd eu bod nhw wedi ymlacio pethau'n rhy fuan, ac y dylsan nhw fod wedi pwyso'r pause button a dal yn 么l am 'chydig."

Mae'r sefyllfa'n straen ar lawer o bobl yn ariannol a meddyliol, meddai.

"Mae ffrind i mi'n gwnselydd, ac mae'n dweud eu bod nhw'n inundated efo pobl efo problemau iechyd meddwl," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae Huw Taylor yn byw yn Awstralia ers 2006

Mae gan Huw a'i wraig, Michelle, dri o fechgyn - efeilliaid sy'n 10 oed, a'u brawd h欧n sy'n 14. Mae'n dweud fod ceisio dysgu'r hogiau adref wedi bod yn dipyn o her.

"Dwi ddim wedi gweithio ers dechrau'r flwyddyn, a dwi ddim yn entitled i ddim pres gan y llywodraeth, ond dwi'n lwcus bod Michelle yn gallu gweithio o adref, tra dwi'n edrych ar 么l yr hogia."

Dywedodd fod nifer o gynlluniau adeiladu mawr yn mynd ymlaen yn y ddinas ar hyn o bryd, ond roedd y cyfan wedi gorfod dod i stop am y tro, gyda dim ond criwiau cynnal a chadw yn gweithio ar y safleoedd.

"Mae'r recession yn mynd i hitio ni'n galed, ac mi fydd yn cymryd amser hir i gwmn茂au gael eu hyder yn 么l.

"Dwi ddim yn gweld pethau'n newid yr ochr yma i 'Dolig, ond mae'n rhaid i ni jest cario mlaen."

Dal i godi

Ers mis Mehefin mae'r haint wedi ffrwydro ym Melbourne, ac mae rhai yn beio methiant i reoli cwarantin ymysg ymwelwyr o dramor oedd yn aros mewn gwestai.

Dair wythnos yn 么l cyhoeddwyd y byddai cyfnod clo chwe wythnos yn cael ei gyflwyno yn y ddinas.

Ond hanner ffordd drwyddo mae cannoedd o achosion yn dal i godi bob dydd yn nhalaith Victoria.

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf (23 i 29 Gorffennaf) roedd dros 2,500 achos newydd o Covid-19 - o'i gymharu 芒 2,200 yr wythnos cynt.

Ffynhonnell y llun, EPA

Disgrifiad o'r llun, Mae siopau angenrheidiol fel archfarchnadoedd yn dal ar agor

Panic yn y siopau

Dywedodd Aled Roberts - sy'n ymgynghorydd busnes ac yn byw yn Awstralia ers 1998 - fod pobl wedi dechrau mynd i banig yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Sul.

"Roedd hi'n banic yn y siopau ddoe - dim cig, y meysydd parcio yn llawn a'r silffoedd yn wag," meddai.

"Mae'r curfew o 20:00 hyd 05:00 yn golygu dim dro hefo'r ci yn hwyr yn y nos. 'Da ni'n byw mewn ardal eithaf gwledig felly mae'r ffyrdd yn hollol wag ar 么l iddi dywyllu. Ond mae'r siopau takeaway yn brysur.

"Mae strydoedd canol Melbourne yn wag, a pawb yn eithaf digalon ar un llaw, ond mae s么n am lefel uwch o gyfyngiadau ers sawl wythnos a meddygon wedi bod yn galw amdano, felly mae rhai yn dweud 'o'r diwedd'.

"Yn 么l be dwi'n ddallt mae'r cyfyngiadau yma yn debyg i be gaeth Cymru pedwar mis yn 么l. Daeth Cymru allan yr ochr arall - gobaith i ni felly!"