Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Argyfwng' economi'r de ddwyrain wedi Covid-19
- Awdur, Owain Evans
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi dweud ei fod yn "bryderus tu hwnt" yngl欧n 芒 sefyllfa'r economi o ganlyniad i pandemig Covid-19.
Yn 么l Huw Thomas mae'r cyngor yn delio gydag "argyfwng economaidd".
Mae'n dadlau fod adferiad araf yr economi ers 2008 wedi profi nad yw llymder wedi gweithio, a bod rhaid buddsoddi yn y sector gyhoeddus er mwyn adfer yr economi.
Ond mae un sy'n gweithio ym maes eiddo yng Nghaerdydd yn dweud bod y sefyllfa'n cynnig cyfle i ddinasoedd llai fel y brifddinas.
'Colli 20% mewn mis'
Dywedodd Mr Thomas: "Beth ry'n ni 'di profi dros y deng mlynedd ddiwetha', yn sgil llymder, ydy adfywiad economaidd sydd wedi bod yn araf ac yn isel.
"Allwn ni ddim, yn fy marn i, ail-wneud y camgymeriadau hynny gan gofio, yma yng Nghaerdydd, ry'n ni wedi torri cwarter biliwn o bunnau yn y ddegawd ddiwetha'.
"Mae hynny wedi cael effaith ar adrannau fel datblygu economaidd - sydd nawr ar flaen y gad yn arwain yr adfywiad yma."
Yn 么l Dr Leon Gooberman o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, dyw hi erioed wedi bod mor ddrwg 芒 hyn ar yr economi.
"Fel arfer yn ystod dirwasgiad chi'n disgwyl colli 6-8% o'r economi mewn cyfnod o chwe mis neu flwyddyn.
"Ond beth sydd wedi digwydd fan hyn yw bod Prydain i gyd wedi colli 20% o'i heconomi mewn un mis.
"Mae hyn lot gwaeth nag unrhyw beth sydd wedi digwydd yn hanes economaidd Prydain a Chymru hefyd."
Yn 么l Dr Gooberman fe allai de ddwyrain Cymru ddioddef yn waeth na rhannau eraill o Brydain.
"Dydy dros 75% o bobl Caerdydd a'r de ddwyrain ddim yn gweithio i'r sector gyhoeddus. Ar ben hynny maen nhw fwy na thebyg yn gweithio mewn sectorau fel siopau neu gartrefi gofal felly maen nhw'n cael llai o gyflog hefyd.
"Felly mae pobl y de ddwyrain yn debyg o gael eu heffeithio'n fwy gan argyfwng Covid na phobl mewn rhannau eraill o Brydain."
Mae canol y brifddinas yn dawel, a nifer o'r swyddfeydd newydd yno yn wag.
Bydd adfer yr economi yn anodd tra bo hynny'n parhau, ond mae rhai'n dadlau fod y sefyllfa'n cynnig cyfle arbennig i lefydd fel Caerdydd a Chasnewydd.
Mae Stuart Munroe yn gyfarwyddwr gyda chwmni eiddo JLL, oedd yn allweddol wrth sicrhau cytundeb ar gyfer yr orsaf fysiau newydd.
"Mae rhai cwmn茂au wedi rhoi'r gwaith o chwilio am swyddfa ar stop dros dro," meddai, "ond ar y llaw arall mae nifer o gwmn茂au mawr eisiau symud o Lundain achos bod pethau'n anoddach yno nag ydyn nhw yng Nghaerdydd."
Mae arweinydd y cyngor yn cytuno er bod y swyddfeydd yn wag ar hyn o bryd, y byddan nhw'n cynnig cyfle i'r brifddinas maes o law.
"Mae'r strategaeth o adeiladu mwy o swyddfeydd modern yn deillio o'r ffaith nad oedd cyflenwad da yma i ddechrau.
"Y cyfle i ddinasoedd o faint Caerdydd nawr yw edrych ar ddinasoedd fel Llundain, ble mae 'na trend o symud allan o ddinasoedd fel hynny a chynnig Caerdydd fel lle amgen i bobl fyw a gweithio gan gymryd mantais o'r ffaith fod costau busnes a chostau byw llawer yn is yma."
Mae'r dasg yn un enfawr ond mae nifer yma yn dadlau y bydd buddsoddi mewn swyddfeydd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gosod seiliau cadarn ar gyfer ailadeiladu economi'r de ddwyrain maes o law.