Y darlledwr radio Chris Needs wedi marw yn 66 oed

Disgrifiad o'r llun, Roedd Chris Needs yn cyflyno rhaglen rhwng 22:00 ac 01:00 ddydd Llun i ddydd Gwener

Mae'r darlledwr radio Chris Needs wedi marw yn 66 oed.

Bu farw Mr Needs, wnaeth gyflwyno rhaglen ar 91Èȱ¬ Radio Wales am bron i 20 mlynedd, ddydd Sul.

Bu hefyd yn cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ac S4C am gyfnodau.

Fe ddechreuodd ei yrfa radio gyda Touch AM cyn symud i'r 91Èȱ¬, ble cyflwynodd ei raglen nosweithiol, The Friendly Garden Programme, am 18 mlynedd.

Roedd Mr Needs, o Gwmafan, Castell-nedd Port Talbot, hefyd yn actor ac yn bianydd clasurol, ac fe dderbyniodd MBE yn 2005.

'Cymeriad anhygoel, unigryw'

Yn rhoi teyrnged iddo, dywedodd golygydd 91Èȱ¬ Radio Wales, Colin Paterson bod Mr Needs yn "gawr ym myd darlledu radio".

"Roedd Chris yn gymeriad anhygoel - cwbl unigryw oedd yn ddiddanwr wrth reddf," meddai.

"Roedd yn gawr ym myd darlledu radio; bu gyda'r sector fasnachol am flynyddoedd cyn symud i'r 91Èȱ¬, lle bu'n darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar deledu a radio.

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

"Ni ellir tanbrisio ei gyfraniad i Radio Wales, yn enwedig dros y misoedd diwethaf lle bu'n cynnig cysur a chwmnïaeth i'n gwrandawyr.

"Dod â phobl ynghyd oedd un o'i brif gryfderau a dwi'n gwybod y bydd ei dîm, ynghyd â phawb yn Radio Wales yn gweld ei golled yn fawr.

"Mae ein meddyliau heddiw ar amser mor drist efo gŵr Chris, Gabe, ei deulu a'i ffrindiau."

I osgoi neges Twitter, 3
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 3

Cafodd teyrngedau eu rhoi iddo ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, gan gynnwys yr actor Ieuan Rhys a'i ddisgrifiodd fel "cymeriad a hanner".

Ychwanegodd y cyflwynydd Dylan Ebenezer: "Newyddion trist iawn - dyn hyfryd - wastad gyda amser am sgwrs."

I osgoi neges Twitter, 4
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 4