Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Yr Eisteddfod ar yr 'internet'... be' nesa' d'wedwch?'
Mae technoleg wedi dod yn ei flaen ers Eisteddfod Bro Colwyn 1995 - fel sy'n amlwg iawn o'r clip archif yma.
Dyma'r flwyddyn wnaeth 'yr internet' gyrraedd maes yr Eisteddfod am y tro cyntaf - oedd yn destun trafodaeth a syndod - a doedd hyd yn oed beirdd a chyflwynwyr teledu S4C heb ddechrau defnyddio'r term 'y we'.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, a bydd dros wythnos o gyngherddau, trafodaethau, barddoniaeth, llenyddiaeth a sgwrsio yn digwydd ar-lein yn sgil canslo'r Brifwyl yn dilyn Covid-19.
Bydd G诺yl AmGen Radio Cymru a Cymru Fyw yn digwydd rhwng nos Iau 30 Gorffennaf a Nos Sul 2 Awst. Bydd yr Eisteddfod AmGen yn parhau tan 8 Awst, gyda rhan o'r cynnwys i'w weld ar Cymru Fyw.
Be' nesa' d'wedwch?!