Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
£1.2bn ychwanegol i helpu Cymru adfer wedi coronafeirws
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd £1.2bn o gyllid ychwanegol ar gael ar gyfer Llywodraeth Cymru eleni.
Mae'r gwariant yn rhan o becyn ehangach o arian ychwanegol i'r llywodraethau datganoledig ymateb i coronafeirws.
Mae'r llywodraeth Geidwadol yn dweud eu bod wedi ymrwymo i "gryfhau'r undeb".
Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi dweud y bydd yn helpu "cynllunio ar gyfer adferiad economaidd Cymru" wedi coronafeirws.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'n "amlwg eto faint o'r pecyn sy'n hollol newydd".
Bydd y cyllid newydd yn dod â chyfanswm y gyllideb ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael fel ymateb i'r pandemig i £4bn.
Dydy'r swm ddim yn cynnwys y gwariant uniongyrchol gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, fel y cynllun ffyrlo na'r toriadau treth ar werth i'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch.
Ond mae gweinidogion Cymru wedi galw ar weinidogion y DU ganiatáu i Lywodraeth Cymru fenthyg mwy o arian i'w helpu i ddelio â'r pandemig.
Ym mis Mai, fe ddywedodd gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, eu bod eisiau "mwy o hyblygrwydd i'n helpu ymateb i argyfwng".
Dywedodd y dylai Trysorlys y DU roi diwedd ar "gyfyngiadau benthyca mympwyol" a hefyd dynnu'r "terfyn ar y swm y gallwn ni gymryd o'n cronfeydd ein hunain".
'Ansicr faint o'r arian sy'n newydd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r pwysau sy'n wynebu ein cyllideb heb ei debyg ers yr Ail Ryfel Byd, a tra'n bod yn croesawu cadarnhad o siâr Cymru o wariant yn Lloegr, dyw hi ddim yn amlwg eto faint o'r pecyn sy'n hollol newydd.
"Ry'n ni'n disgwyl derbyn arian ar gyfer costau PPE a phwysau'r gaeaf ar y GIG.
"Ry'n ni'n edrych ymlaen at dderbyn y manylion llawn ar gyllid newydd, ac yn gobeithio y bydd Trysorlys y DU, o'r diwedd, yn codi'r cyfyngiadau ar ein gallu i fynd i'n cronfeydd ein hunain i fynd i'r afael â'r pwysau brys."
Fel arfer, mae cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU yn dod o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr, neu ar adrannau sydd wedi'u datganoli, fel iechyd neu addysg.
Ond dydy'r cyhoeddiad hwn ddim mewn ymateb i wariant ychwanegol yn Lloegr.
Dydy hi ddim yn glir eto os yw'r arian yma o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr yn y dyfodol - neu os fyddai hynny yn arwain at arian ychwanegol i Gymru hefyd yn y modd arferol.
'Peidio cyffroi gormod'
Wrth siarad ar 91Èȱ¬ Radio Wales fore dydd Gwener, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a chyllid, Rhun ap Iorwerth: "Maddeuwch i mi am beidio cyffroi gormod. Mae profiad yn dangos fod cyhoeddiadau fel hyn yn datod yn sydyn.
"Ein enghraifft ddiweddaraf fyddai datganiad yr haf yn gynharach y mis hwn pan gafodd £500m o gyllid ychwanegol i Gymru ei glodfori.
"Mae arbenigwyr ariannol yn cael cyfle i edrych ar y ffigyrau hyn - rwy'n credu fod erthygl Canolfan Llywodraethiant Cymru yr oeddwn yn edrych arni neithiwr yn tanlinellu mai dim ond £12.5m oedd Llywodraeth Cymru wedi ei adnabod fel arian ychwanegol oedd yn dod o'r £500m.
"Felly mae angen i ni edrych yn fanwl am beth yw'r arian yma, os yw'n ychwanegol, os yw'n newydd, os yw'n gyn-gyhoeddiad o rywbeth sydd am ddod o ganlyniad i arian fyddai'n cael ei wario'n barod ar gyfer y DU gyfan, dydyn ni ddim yn gwybod."
'Arian newydd'
Dywedodd David Davies, Aelod Seneddol Mynwy ac Is Weinidog yn Swyddfa Cymru wrth raglen y Post Cyntaf ar 91Èȱ¬ Radio Cymru fore Gwener bod yr £1.2bn ychwanegol gafodd ei gyhoeddi i gyd yn arian newydd."Mae'r arian yn hollol newydd. Mae nhw'n (Llywodraeth Cymru) iawn i ddweud mai dyma'r argyfwng gwaetha ers yr ail ryfel byd - mae'r llywodraeth yn derbyn hynny ac yn gweithredu i sicrhau bod yr arian yn dod. Felly yr ateb yw 'ydi', mae o'n arian newydd. Mae'n rhan o'r £4bn o arian ychwanegol, sydd i gyd yn arian newydd."
Ychwanegodd: "Os gofiwch chi 'nol i ddatganiad y Canghellor rai wythnosau'n ôl roedd gan y Cynulliad £2.3bn yn ychwanegol, wedi'r datganiad roedd yn £2.8bn, ac rŵan mae o bron yn £4bn.
"Felly mae o'n arian newydd a fyswn i'n disgwyl i'r llywodraeth wario'r arian ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru."
Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol 91Èȱ¬ Cymru, Catrin Haf Jones
Nid fel hyn mae pethau'n arfer gweithio.
Y ddealltwriaeth gyffredin yw bod mwyafrif yr arian sy'n croesi Clawdd Offa o San Steffan yn ganran o beth sy'n cael ei wario yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi eu datganoli - ar sail ac yn sgil fformiwla Barnett. Y drefn arferol felly yw bod arian yn cael ei gyhoeddi ar gyfer rhywbeth yn Lloegr ac yn ddieithriad bron, fe fyddwn ninnau'n trio canfod faint fydd yn dod yn ei sgil i Gymru.
Nid felly'r tro hwn. Mae'r arian yma, medd Llywodraeth San Steffan, yn arian newydd i'r gwledydd datganoledig - ar sail Barnett - ond nid yn sgil unrhyw wariant (hyd yn hyn, ta beth) yn Lloegr. Sut felly? Pam felly? Dyna sydd wedi'n gyrru ni gyd i grafu pen...
Ddoe fe fu Boris Jonhnson lan yn Yr Alban am y tro cyntaf ers dod yn Brif Weinidog. A oedd gan bôl piniwn am y twf yn y gefnogaeth i annibyniaeth y wlad rhywbeth i'w wneud a hynny? Ei neges glir oedd gwerth yr undeb - y Deyrnas Unedig - yn enwedig mewn argyfwng economaidd.
Heddiw, dyma'i gyhoeddiad: mwy o arian i'r Alban, mwy o arian i Gymru a Gogledd Iwerddon hefyd, er mwyn delio a sgil effeithiau coronafeirws.
Ai ymateb i her nesa' Covid-19 yw'r cyhoeddiad hwn felly - y frwydr i gadw'r undeb ynghyd, a'r gobaith unwaith eto ar y geiniog?
Neu a oes rhywbeth arall tu hwnt i'r polau a'r penawdau fan hyn? Mae Barnett yn gweithio'r ddwy ffordd wedi'r cwbl - os oes arian i Gymru, bydd arian i Loegr, 'does bosib...
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yr arian yma yn rhoi "sicrwydd a hyblygrwydd ariannol i allu cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf".
"Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wneud popeth posib i drechu coronafeirws, a bydd y cyllid ychwanegol yma i Gymru - sydd nawr werth £4bn - yn helpu Llywodraeth Cymru sicrhau ymateb ar y rheng flaen," meddai Mr Hart.
Addo gwarchod swyddi
Ychwanegodd: "Bydd hyn yn rhoi gwarant gan Lywodraeth y DU y gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi i warchod swyddi a chynllunio ar gyfer adferiad economaidd Cymru.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda nhw i sicrhau y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd yn ogystal â darparu cefnogaeth economaidd ychwanegol ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr drwy gyfres o fesurau gafodd eu cyhoeddi gan y Canghellor."
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Steve Barclay AS hefyd yn dweud bod y cyllid yma'n arwydd o ymrwymiad tuag at yr undeb ac i sicrhau adferiad y Deyrnas Unedig gyfan.
Ar ymweliad â'r Alban ar ddydd Iau, fe ddywedodd y Prif Weinidog ei fod yn addo bod yn prif weinidog i bob cornel o'r DU.
Tra bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhan fwyaf yr ymateb economaidd i'r feirws, mae'r llywodraethau datganoledig wedi gosod amserlen y cyfyngiadau, a'r cyfreithiau yn ymwneud ac iechyd y cyhoedd yn ystod y cyfnod clo.