Galw am gefnogaeth i addysg bellach yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r corff sy'n cynrychioli sefydliadau addysg bellach Cymru'n galw ar Lywodraeth Cymru i egluro beth yw'r camau nesaf a rhoi cefnogaeth ariannol, gan ddadlau fod dyfodol y sector ar 么l Covid-19 "wedi'i adael yn y tywyllwch".

Mae ColegauCymru'n honni bod addysg dysgwyr 16-19 oed yn cael eu hanwybyddu a bod sylw'r llywodraeth yn bennaf ar gefnogi a chyllido ysgolion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod pwysigrwydd addysg bellach yng Nghymru a'r her sy'n ei wynebu. Rydyn ar hyn o bryd yn ceisio darganfod ffyrdd o ddarparu cyllid ychwanegol."

Yn 么l Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru: "Gyda dim ond chwech wythnos tan ddechrau'r tymor newydd, nid yw'r sector addysg bellach yn glir o hyd yngl欧n 芒'r ddarpariaeth cyllid na'r ymarferoldebau sy'n ymwneud 芒 dychwelyd dysgwyr a staff yn ddiogel i ddarpariaeth wyneb yn wyneb.

Disgrifiad o'r llun, Ni all y sector addysg bellach yng Nghymru fforddio unrhyw oedi pellach, medd Iestyn Davies

"Rydym nawr yn annog cabinet Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r colegau i gwblhau'r trefniadau ar gyfer dychwelyd yn ddiogel ac i gadarnhau'r cyllid hanfodol sydd ei angen i wneud hyn yn bosibl."

Yn ogystal 芒 chyllid mae yna alw am ganllawiau pellhau cymdeithasol, cefnogaeth benodol ar gyfer dysgwyr nad sy'n derbyn y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt, ac offer priodol i gael mynediad at ddysgu ar-lein.

Maent hefyd am i Lywodraeth Cymru gydnabod y gost ychwanegol o sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer nifer uwch o ddysgwyr ar y campws ac yn galw am gyllid "ychwanegol i ddiwallu anghenion penodol nifer o ddysgwyr gydag anghenion addysg ychwanegol a dysgwyr sgiliau byw annibynnol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Llywodraeth Cymru eu yn "cydnabod pwysigrwydd addysg bellach yng Nghymru a'r heriau"

Cyhoeddiad ddydd Mercher

Gall diffyg cefnogaeth ariannol, medd llefarydd, gael effaith gymdeithasol ac economaidd gan fod y colegau yn cyflenwi nifer o gadwyni ac yn cyfrannu'n enfawr at yr economi leol.

Ychwanegodd Iestyn Davies: "Er mwyn agor yn ddiogel ac yn effeithiol ym mis Medi, a darparu cefnogaeth i ddysgwyr, mae angen arian gwirioneddol newydd wedi'i bwmpio i'r gyllideb addysg bellach. Ni all y sector addysg bellach yng Nghymru fforddio unrhyw oedi pellach."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod disgwyl i'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, gyhoeddi pecyn o gefnogaeth i addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru ddydd Mercher.