Meysydd chwarae a champfeydd awyr agored i ailagor

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Mae sawl campfa wedi symud eu hoffer i fod tu allan

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd meysydd chwarae, ffeiriau, canolfannau cymunedol a champfeydd awyr agored yn ailagor ddydd Llun

Dyma ail ran pecyn o fesurau i ailagor rhannau o'r sectorau twristiaeth, lletygarwch a hamdden yng Nghymru.

Wrth lacio'r cyfyngiadau ymhellach dywedodd Mark Drakeford: "Gyda chyfraddau'r feirws yn dal i gwympo yng Nghymru, gallwn barhau i raddol godi'r cyfyngiadau, gam wrth gam.

"O ddydd Llun, bydd meysydd chwarae a champfeydd awyr agored yn cael ailagor.

"Bydd canolfannau cymunedol yn cael cynnal mwy o weithgareddau gan gynnwys helpu awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau chwarae a gofal plant dros wyliau'r haf.

"Bydd ffeiriau hefyd yn cael ailagor gan eu bod wedi cael amser i feddwl sut i roi mesurau priodol ar waith cyn bod eu cwsmeriaid yn dychwelyd. Hyn oll ar 么l ailagor atyniadau dan do ac awyr agored yn yr wythnosau diwethaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd parciau chwarae yn cael ailagor ddydd Llun

Ond pwysleisiodd y Prif Weinidog nad oes gorfodaeth ar y canolfannau yma i ailagor.

'Y feirws dal yma'

Yn ystod y gynhadledd heddiw hefyd fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod bod dros 2,400 o fobl yng Nghymru wedi marw o'r haint, bod sawl un wedi colli bywoliaeth a bod yr haint wedi cael effaith ar addysg plant ond bod Cymru wedi llwyddo i osgoi y gwaethaf wrth iddynt lynu at y rheolau.

Yn ogystal diolchodd Mark Drakeford i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus am wneud cymaint i'n cadw'n ddiogel yn ystod y misoedd anodd.

"Yn ystod diwrnodau tywyll mis Ebrill roedd 390 achos positif bob dydd," meddai, "ddoe dim ond 18 achos a gofnodwyd er bod dros 4,000 o brofion wedi'u cynnal. Dim ond 10 claf sydd bellach mewn uned gofal dwys ac mae y rhif R yn rhy fach i'w fesur.

"Ry'n hefyd wedi cynyddu ein gallu i brofi - mae modd cynnal 15,000 o brofion yng Nghymru bellach. Pan oedd yr haint ar ei waethaf roedd 43% o achosion yn bositif - mae'r nifer hwnnw bellach wedi gostwng i 0.5%."

Ychwanegodd: "Gallai pryd yn union maen nhw'n ailagor amrywio wrth i berchenogion asesu'u sefyllfa a gwneud y newidiadau angenrheidiol.

"Wrth i ni gymryd y camau gofalus hyn, peidiwch da chi 芒 meddwl bod y feirws wedi gadael y tir. Gallai'n holl waith caled fynd yn ofer yn rhwydd iawn os na wnawn ni ddal ati i wneud ein rhan ym mhob ffordd i gadw Cymru'n ddiogel."

Adolygiad nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gofyn i nifer o fusnesau eraill ddechrau paratoi ar gyfer ailagor o 27 Gorffennaf, os bydd amodau'n caniat谩u. Y busnesau hynny yw:

  • salonau harddwch ac ewinedd a busnesau lliw haul, massage, tyllu'r corff, tat诺s, electrolysis ac aciwbigo;
  • sinem芒u, amgueddfeydd, orielau ac archifdai dan do;
  • llety i dwristiaid, 芒 chyfleusterau wedi'u rhannu, fel meysydd pebyll (yn cael agor o 25 Gorffennaf);
  • y farchnad dai'n llawn.

Os bydd y sectorau hyn yn ailagor yn llwyddiannus a bod amodau'n caniat谩u, bydd lleoedd dan do fel tafarndai, bariau, caffis a bwytai'n cael ailddechrau o 3 Awst yn dilyn yr adolygiad nesaf o reoliadau'r coronafeirws.

Cymru i elwa?

Wrth gael ei ei holi am gyhoeddiad Boris Johnson o 拢3bn yn ychwanegol dywedodd Mr Drakeford nad yw'n gwybod eto a fydd Cymru'n elwa.

Atebodd: "Dydyn ni ddim yn gwybod eto, rhaid aros i weld. Nid yw'r prif weinidog wedi gwneud y cyhoeddiad eto.

"Ry'n ni wedi dysgu i edrych ar y print m芒n ar gyhoeddiadau fel hyn.

"Os daw'r arian i'r gwasanaeth iechyd [yn Lloegr], yna iechyd a gofal cymdeithasol fydd yn cael yr arian yna yng Nghymru."

Cynhadledd ddyddiol olaf

Cyhoeddodd Mr Drakeford hefyd newid i'r drefn o safbwynt y gynhadledd newyddion.

Ni fydd cynhadledd ddyddiol o hyn ymlaen. Yn hytrach, fe fydd cynhadledd wythnosol bob dydd Mawrth, ac un ychwanegol ar ddyddiau Gwener yn ystod wythnosau adolygu cyfyngiadau, sef bob tair wythnos.

Bydd y gynhadledd wythnosol nesaf felly ar ddydd Mawrth, 21 Gorffennaf, a'r gynhadledd adolygu nesaf ar ddydd Gwener, 31 Gorffennaf.