Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diweithdra yn gostwng ychydig yng Nghymru - ONS
Efallai bod y ffigyrau diweithdra swyddogol diweddaraf yng Nghymru yn rhoi argraff gamarweiniol o gyflwr yr economi.
Mae diweithdra yng Nghymru ar 2.7% o gymharu 芒 3.9% ar gyfer gweddill y DU, yn 么l ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol o'r cyfnod rhwng Mawrth a Mai eleni.
Ond mae cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn cadw pobl mewn gwaith na fyddan nhw fel arall.
Dydy ffigurau 'r ONS ddim chwaith yn adlewyrchu colledion swyddi gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar yn Airbus, BA, GE Aviation a Celtic Manor.
Mae ffigyrau'r ONS hefyd yn datgelu bod 649,000 o weithwyr ledled y DU wedi cael eu tynnu oddi ar y gyflogres (payroll) rhwng mis Mawrth a mis Mehefin.
O ystyried cyfyngiadau'r prif ffigwr diweithdra mae hwn yn fesur mwy defnyddiol o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn economi'r DU.
Mae ffigyrau'r ONS yn awgrymu bod 41,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru.
Mae hynny 1% yn is nag yn y tri mis blaenorol, tra bod gweddill y DU wedi aros yr un peth.
Gwelodd yr Alban ostyngiad mewn diweithdra hefyd, tra bu cynnydd bychan yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gadael swydd a cholli un newydd
Un sydd wedi ei chael yn anodd yn ystod y misoedd diwethaf yw Stephanie Barnett o Gei Conna.
"Roeddwn i'n gweithio fel gofalwraig am ychydig ddyddiau'r wythnos, ond 'doedd gwneud hynny ddim yn ymarferol oherwydd gofal plant, felly mi wnes benderfynu roi'r gorau iddi fel gofalwraig ac ymgeisio am swydd fel cynorthwyydd dosbarth," meddai.
"Roeddwn i fod i ddechrau fy swydd yn yr ysgol ddiwedd mis Mawrth, ond fe ddaeth y cyfnod clo oherwydd y coronafeirws.
"Fe es yn 么l at y cwmni gofal a gofyn os allwn fynd ar gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU drwyddyn nhw, gan na fyddai hynny yn effeithio arnyn nhw yn ariannol. Ond doedd hynny ddim yn bosib ar y pryd."
Mae Stephanie wedi bod yn dibynnu ar gredyd cynhwysol ers hynny: "Mae wedi achosi pryder mawr i mi, am gyfnod doeddwn i ddim yn gwybod o ble oedd yr arian yn mynd i ddod i dalu'r rhent, y biliau ac i fwydo fy mhlant.
"Dwi'n gobeithio y byddai'n gallu dychwelyd i fyd gwaith ym mis Medi pan fydd yr ysgolion yn ailagor."