Gŵyl AmGen: Beth sydd wedi ei ddatgelu hyd yma?

Fyddwch chi'n gweld colli eich hoff ŵyl eleni?

Gall dim gymryd lle cymdeithasu a mwynhau ymysg torf o ffrindiau. Ond eleni mae digwyddiadau poblogaidd fel Gŵyl y Gelli, Tafwyl ac eraill wedi addasu a chynnig arlwy wahanol i'r arfer.

Gyda mis Awst yn agosáu, mae 91Èȱ¬ Cymru a'r Eisteddfod yn bwriadu cynnal Gŵyl AmGen yn y cyfnod byddai'r Brifwyl wedi ymweld â Cheredigion.

Ond beth fydd yn digwydd yn ystod yr Å´yl AmGen? Dyma bopeth sydd wedi ei ddatgelu hyd yma...

Pryd a lle?

Mae sesiynau ar-lein amrywiol yn cael eu cynnal ar yn barod, ac ar wasanaeth Hansh S4C.

I osgoi neges Facebook

Mae’n flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.

Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Ar 30 Gorffennaf fe fydd Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw yn ymuno yn yr hwyl ar benwythnos gychwynol wreiddiol yr Eisteddfod yn Nhregaron

Beth?

Fe fydd y penwythnos yn ddathliad o'r gorau o ddiwylliant Cymru, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o drafodaethau a pherfformiadau fyddai i'w disgwyl ar faes yr Eisteddfod.

Ar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn fe fydd amserlenni Radio Cymru wedi eu trawsnewid a chyflwynwyr yr orsaf yn ein tywys i bob cornel o'r maes rhithiol. Bydd yr arlwy yn cynnwys dramâu a chyngherddau yn ogystal â rhaglenni dogfen a cherddoriaeth.

Bydd Cymru Fyw yn rhannu cystadlaethau a pherfformiadau o'r archif ac yn cynnal trafodaethau difyr am bynciau amrywiol.

Bydd hefyd ambell i gystadleuaeth gan gynnwys:

  • Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth a Chystadleuaeth y Stôl Ryddiaith
  • Albym y Flwyddyn
  • Dysgwyr yr Å´yl AmGen

Mae'r 91Èȱ¬ hefyd yn cydweithio â Llenyddiaeth Cymru a'u partneriaid er mwyn cyhoeddi fel rhan o'r ŵyl.

Pwy?

Bydd yr ŵyl yn rhoi llwyfan i rai o gerddorion a llenorion amlycaf Cymru ac yn ein cyflwyno i ambell seren y dyfodol.

Llywyddion y Dydd fydd Seren Jones a Toda Ogunbanwo ac fe fydd y ddau yn annerch yr ŵyl yn ystod y penwythnos.

Disgrifiad o'r llun, Toda Ogunbanwo, un o lywyddion yr ŵyl

Radio Cymru 2 fydd calon gerddorol yr ŵyl, â'r rhaglenni yn adlewyrchu amrywiaeth llwyfannau cerddorol yr Eisteddfod o'r Tŷ Gwerin i Maes B.

Bydd Eädyth Crawford yn cyflwyno'r gerddoriaeth sy'n ei hysbrydoli hi a'r actor byd enwog Rhys Ifans yn rhannu ei ddewis cerddorol tra'n trafod ei brofiadau yn ystod y cyfnod clo.

Bydd amserlen lawn yr ŵyl yn cael ei ddatgelu yn fuan.

Pam?

Bwriad yr ŵyl yw llenwi rhywfaint ar y bwlch ar ôl Eisteddfod Ceredigion a "rhoi llwyfan i oreuon y genedl".

Yn ôl Rhuanedd Richards, golygydd 91Èȱ¬ Radio Cymru a 91Èȱ¬ Cymru Fyw: "Dyma gyfle gwych i ni allu dod at ein gilydd fel cenedl i ddathlu ein diwylliant a chreu gŵyl o'r newydd.

"Fe fydd hi'n Faes B, pafiliwn a phabell lên ond yn bennaf oll fe fydd yn ganolbwynt ac yn gyrchfan i wrandawyr o bob cwr o'r byd i ymgynnull a mwynhau arlwy o raglenni amrywiol o'r 'stafell fyw."

Hefyd o ddiddordeb