Merched y Wawr yn troi at dechnoleg yn ystod y cyfnod clo

Disgrifiad o'r llun, Mae tudalen Curo'r Corona'n Coginio yn un syniad ymhlith nifer i geisio cadw cyswllt ag aelodau
  • Awdur, Elen Wyn
  • Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru

Mae'r cyfnod clo wedi gorfodi nifer o glybiau cymdeithasol i roi'r gorau i'w gweithgareddau dros dro.

Yn eu plith mae mudiad Merched y Wawr.

Mae gweithgareddau聽cymdeithasol yn ganolog i'w hamserlen, felly er mwyn cadw cysylltiad, mae'r aelodau wedi bod yn helpu ei gilydd drwy dechnoleg.

Dywedodd cyfarwyddwr cenedlaethol Merched y Wawr, Tegwen Morris bod y mudiad wedi manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu sgiliau technolegol.

"Y'n ni wedi troi yn rhithiol, y'n ni ar y cyfryngau cymdeithasol a'r peth pwysig iawn i ni 'neud yw cadw mewn cyswllt gyda'r aelodau a dysgu nhw hefyd sut mae mynd ar dechnoleg newydd," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Tegwen Morris bod y mudiad eisoes yn paratoi digwyddiadau ar gyfer yr hydref

"Mae paratoadau ar gyfer yr Hydref; y'n ni eisoes yn edrych ar gynnal teithiau cerdded yn hytrach na'n bod ni'n fewnol, os y'n ni'n arfer cwrdd mewn festri capel a fyddai'n bosib mynd i'r capel i gael lleoliad llawer iawn yn fwy?"

Mae'r mudiad wedi creu tudalennau ar wefannau cymdeithasol hefyd, fel "Curo'r Corona'n Coginio", lle mae pobl yn rhannu ryseitiau.

Mae honno'n un syniad ymhlith nifer i geisio cadw cyswllt 芒'u haelodau dros y cyfnod clo.

Grymuso aelodau

Mae'r aelodau wedi bod yn cael gwersi digidol hefyd, a hynny gan hyfforddwr Cymunedau Digidol Cymru, Deian ap Rhisiart.

"Dwi wedi bod yn rhoi gwersi i aelodau Merched y Wawr ar sut i ddefnyddio WhatsApp a Zoom a [Microsoft] Teams a straeon digidol - be' 'dy hwnna ydy bod ti'n gallu creu ffilm fach dri munud o hyd ar dy ff么n," meddai.

"Dwi'n gobeithio bod hyn yn grymuso nhw i allu 'neud pethau eu hunain.

"Dyna 'dy'r holl bwynt, bod nhw hefo'r sgiliau i fynd ymlaen efo hyn."

Disgrifiad o'r llun, Mae Deian ap Rhisiart wedi bod yn rhoi gwersi digidol i aelodau'r mudiad

Ac o'r cyfrifiadur i weiars mwy traddodiadol - y ff么n!

Os oes aelod yn teimlo'n unig, neu awydd sgwrs yna mae rhywun o'r mudiad yn ffonio a rhoi'r byd yn ei le.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Meirwen Lloyd fod cynllun 'ffonio ffrind' y mudiad "yn talu ar ei ganfed"

"Mae'r ffonio ffrind yn talu ar ei ganfed. Maen nhw mor falch pan 'dan ni'n ffonio nhw," meddai llywydd Merched y Wawr, Meirwen Lloyd.

"Mae ganddon ni'r swyddogion datblygu ar draws Cymru gyfan a swyddfa, mae genod y swyddfa - wrth gwrs dy'n nhw'm yn gweithio yn y swyddfa, maen nhw'n gweithio o adra - i gyd yn ffonio rhywun bob dydd ac mae ganddon ni gynllun sydd yn mynd o un i un i ffonio."

Mae'r mudiad wedi gorfod addasu, a dysgu, wrthi gyfnod newydd wawrio drwy wifrau.