Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hawl i ddwy aelwyd ffurfio 'cartref estynedig' o ddydd Llun
Bydd dau gartref yng Nghymru yn gallu ffurfio "un cartref estynedig" a chwrdd 芒'i gilydd yn eu cartrefi o ddydd Llun nesaf ymlaen, yn 么l Llywodraeth Cymru.
Fe fydd modd creu cyswllt gydag un cartref arall yn unig, ac nid oes modd newid hynny unwaith y bydd wedi'i ffurfio.
Bydd rheol "aros yn lleol" Llywodraeth Cymru yn cael ei ddiddymu ar yr un diwrnod - 6 Gorffennaf.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn ymwybodol bod pobl yn colli eu teuluoedd.
Daw yn dilyn trefniadau am "swigod cymdeithasol" mewn mannau eraill yn y DU.
Dan y rheolau, pe bai unrhyw aelod o'r cartref estynedig yn datblygu symptomau Covid-19, byddai'n rhaid i'r ddau gartref hunan-ynysu.
Mae caniat芒d i bobl yn y categori bregus i ffurfio cartref estynedig hefyd, ond rhybuddiodd Mr Drakeford y byddai hynny yn cynyddu'r risg o gael coronafeirws.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod modd aros dros nos hefyd yn y cartref estynedig.
'Penderfyniadau anodd'
"Bydd creu cartrefi estynedig yn galluogi i nifer o deuluoedd aduno am y tro cyntaf ers mis Mawrth," meddai Mr Drakeford yn y gynhadledd ddyddiol ddydd Llun.
"Bydd yn helpu nifer o rieni gyda gofal plant anffurfiol dros yr haf a bydd hefyd yn cefnogi'r rheiny sy'n gofalu am eraill."
Ond dywedodd Mr Drakeford bod y rheolau newydd yn golygu y bydd yn rhaid i bobl wneud "penderfyniadau anodd".
"Mewn rhai achosion, yn enwedig gyda theuluoedd mwy, bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd," meddai.
"Meddyliwch am y goblygiadau - os ydy unrhyw un yn y cartref estynedig yn mynd yn s芒l, bydd yn rhaid i bawb hunan-ynysu am 14 diwrnod."
Pan ofynnwyd iddo a oedd newid y cyfyngiadau yn golygu na fydd y llywodraeth yn gallu darganfod achos y profion positif, dywedodd Mr Drakeford y bydd "modd gwneud y cysylltiadau rhwng yr achos a'r effaith os bydd achosion yn cynyddu o ganlyniad i'r newidiadau sydd wedi eu cyflwyno".
"Mae cyflwyno newidiadau o ddydd Llun i ddydd Llun yn ddoeth a dyna pam mae gennym ni bob hyder y gallwn ddarganfod y cysylltiad rhwng achos ag effaith," meddai.
"Rydym yn gwneud y newidiadau yn seiliedig ar gyngor a'r cyngor yw bod y camau hyn yn rhesymol a ni ddylen nhw arwain at gynnydd yn nifer yr achosion coronafeirws."
Bydd canllawiau pellach ar y cynllun yn cael eu cyhoeddi ddiwedd yr wythnos.