Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddlu'r De yn gwasgaru torf ym Mae Caerdydd
Bu'n rhaid i Heddlu'r De wasgaru torf ym Mae Caerdydd nos Wener wedi adroddiadau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Dywedodd llefarydd bod plismyn wedi cael eu galw i Gilgant Bute toc wedi hanner nos i wasgaru torf.
Mae'n debyg bod nifer wedi ymgasglu gyda'i gilydd ac yn yfed alcohol ond ni chafodd neb ei arestio.
Gerllaw yn y Roald Dahl Plass roedd nifer o ganiau diod wedi'u gadael ar lawr a chafodd lluniau o weithwyr yn clirio'r sbwriel eu postio ar Twitter.
Nos Iau yr oedd ffrwgwd yn Aberogwr ym Mro Morgannwg - digwyddiad torfol a wnaeth annog y Prif Weinidog, Mark Drakeford i ddweud na fyddai'r cyfyngiadau clo yn cael eu llacio petai digwyddiadau o'r fath yn parhau.
Dywedodd Mark Drakeford bod golygfeydd o'r fath yn "bygwth iechyd pobl Cymru ac yn tanseilio yr aberth y mae rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi gorfod ei wneud yn ystod yr argyfwng".
Dywedodd y Prif Arolygydd Andy Valentine o Heddlu'r De: "Mae ymddygiad o'r fath yn cael effaith ar y gymuned yn ehangach ac nid yw ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu droseddu yn cael ei ganiat谩u.
"Mae'n swyddogion yn ymateb i'r digwyddiadau hyn ac yn defnyddio eu pwerau, gan gynnwys gorchmynion gwasgaru ond mae milltiroedd o arfordir, parciau, a chanol trefi a dinasoedd yn her anferth [i'w plismona] ac allwn ni ddim bod ymhobman ar unwaith."
Fe anogodd pobl i fod yn gyfrifol a dywedodd y dylai rhieni pobl ifanc a phlant sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u symudiadau.