Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Nes i adael Cymru achos y diffyg cyfleoedd gwaith'
Er ond yn 24 mlwydd oed, mae CV Chizi Phiri yn un trawiadol.
Wedi graddio o Brifysgol Abertawe, bu'n Swyddog y Merched gyda'r NUS yng Nghymru ac yn gyfrifol am ymgyrch genedlaethol tlodi misglwyf.
Wedi hynny cwblhaodd gynllun mentora er mwyn helpu iddi gael mynediad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Ond dywed Chizi ei bod wedi dod yn erbyn wal yng Nghymru ac felly wedi gorfod gadael.
"'Da ni i gyd yn gwybod am yr ystadegau," meddai. "Mae'n rhaid i raddedigion du ac Asiaidd anfon 80% yn fwy o geisiadau na'u cyfoedion gwyn. Mae hynny yn sicr yn rhywbeth nes i brofi.
"A dyw bywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth ddim yn gynrychiolaeth o'r Cymru ry'n ni'n byw ynddi heddiw.
"Fel menyw du ifanc 'da chi eisiau gweld pobl eraill sy'n edrych fel chi i roi hyder i chi a doedd hynny ddim yn bodoli yng Nghymru."
Mae Chizi - sydd ag awydd fod yn wleidydd - eisiau gweld hynny'n newid.
"Dwi wedi gweld nifer fawr o adroddiadau ac ymgynghoriadau. Yr hyn dwi ddim yn gweld ydy gweithredoedd," meddai.
"Faint o bobl 'da chi'n gyflogi mewn swyddi gweithredol uwch? Faint 'da chi'n dalu staff du? Ydy'n gyfartal i'w cyd-weithwyr gwyn? Be' 'da chi'n gwneud i'w dyrchafu i swyddi uwch?"
Nid Chizi yw'r unig berson du sydd wedi gorfod gadael Cymru i ddatblygu gyrfa.
Mae Dr Constantino Dumangane Jr yn academydd sydd yn arbenigo mewn hil ac amrywiaeth. Yn wreiddiol o'r UDA, mae wedi byw yng Nghaerdydd ers 14 mlynedd.
Mae'n dweud y bu'n frwydr i academia Cymreig gymryd hil o ddifri fel pwnc ymchwil.
"Yng Nghymru, hil sydd wastad yn olaf ar y rhestr ac mae hynny yn hynod broblemus," meddai.
Fe aeth Constantino i weithio ym Mhrifysgol Caerefrog, ble mae'n gwneud ymchwil yn ogystal 芒 darlithio ar bynciau hil ac ethnigrwydd.
Yn ddiweddar mae effaith coronafeirws ar gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac ymgyrch Black Lives Matter wedi taflu goleuni ar hiliaeth systematig.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi s么n am "ddiffyg cynrychiolaeth BAME yn y broses o wneud penderfyniadau" ac fe awgrymwyd newidiadau i'r penodiadau mae Llywodraeth Cymru yn gwneud i gyrff gyhoeddus mewn adolygiad diweddar.
Yn 2018/19 dim ond 3% o benodiadau a ddaeth o'r gymuned BAME er eu bod yn 5% o'r boblogaeth.
Mae'r Gweinidog Cydraddoldeb, Jane Hutt yn mynnu bod cynnydd yn yr 20 mlynedd y bu Llafur Cymru mewn grym ond yn cydnabod bod "diffyg enfawr yn nhermau cynrychiolaeth yn enwedig aelodau BAME ac hefyd pobl anabl".
Mae Constantino a Chizi eisiau dychwelyd i Gymru ond dim ond pan eu bod nhw'n teimlo bod lle iddyn nhw.
"Mae hi'n wlad anhygoel a dwi'n ei charu," medd Chizi, "ond dwi eisiau dod yn 么l a gweld amrywiaeth. Mi fyddaf wrth fy modd dod yn 么l, ond mae angen i bethau wirioneddol newid."