Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Siopau yn ailagor ond fyddan nhw ddim yr un peth
Wedi misoedd o fod ar gau, mae nifer o siopau Cymru yn paratoi i groesawu cwsmeriaid unwaith eto.
O ddydd Llun ymlaen, bydd hawl gan siopau nad yw'n hanfodol agor eu drysau am y tro cyntaf ers i gyfyngiadau coronafeirws ddod i rym ym mis Mawrth.
Ond mae disgwyl y bydd y profiad o siopa yn wahanol iawn i'r arfer.
Yn 么l Consortiwm Manwerthu Cymru, mae nifer o siopau "mewn brwydr" i oroesi.
Maen nhw'n dweud bod siopau sydd ddim yn gwerthu bwyd wedi gwneud colled o 拢1.7bn yr wythnos yn ystod Ebrill a Mai.
Maen nhw'n disgwyl i werthiant barhau yn isel, a llawer o siopau aros ar gau.
Bu rhesi hir o bobl yn aros i rai siopau agor pan laciodd Lloegr eu cyfyngiadau ar 15 Mehefin.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud nad yw eisiau gweld golygfeydd tebyg yma.
Yng Nghymru, bydd pobl ond yn gallu siopa o fewn pum milltir i'w cartrefi.
Mae rhai siopau mawr a siopau annibynnol wedi cadarnhau na fyddan nhw'n agor eu drysau er bod hawl ganddyn nhw wneud hynny.
Mae gan Primark siopau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Cwmbr芒n, Llanelli, Abertawe, Llandudno a Wrecsam.
Mae'r cwmni'n dweud y byddan nhw ond yn ailagor pan bydd hi'n ddiogel i wneud hynny.
Mae Debenhams wedi dweud eisoes na fydd eu siop ym Merthyr yn ailagor, ond y bydd eu siopau yn Abertawe a Chasnewydd yn gwneud wedi i'r cynghorau ohirio dyddiad talu cyfraddau busnes.
Sut brofiad fydd siopa mewn pandemig?
Peidiwch disgwyl i bethau fod fel arfer.
Mae busnesau wedi buddsoddi cryn dipyn i geisio sicrhau diogelwch cwsmeriaid, ac mae ambell gyngor, yn cynnwys Caerdydd, wedi ail-ddylunio'r stryd fawr i sicrhau mwy o le i siopwyr.
Mesurau posib o ddydd Llun ymlaen:
- Sgriniau wrth y til ac arwyddion ar lawr i nodi bylchau dwy fetr;
- Staff diogelwch ychwanegol yn cyfyngu ar niferoedd siopwyr;
- Rhesi o bobl ar wah芒n wrth fynd mewn i siop ac wrth dalu;
- Staff yn gwisgo mygydau a staff glanhau ychwanegol;
- Hylif hylendid dwylo wrth fynedfeydd a deunydd i lanhau basgedi a throlis;
- Rhai ystafelloedd newid ar gau a dim tai bach cyhoeddus.
I siopau annibynnol fel siop ddillad dynion Trefor Jones yng Nghaernarfon, mae'n golygu llawer i fedru ailagor unwaith eto.
"Wrth ein bodde bod ni'n cael ynde," medd Mr Jones, "Mae 'di bod yn dri mis hir iawn ac ansicr felly mae'n neis bod ni'n cael mynd yn 么l i'r normal newydd 'ma fel ma' pawb yn ddeud."
Mae Trefor a'i gyd-weithwyr wedi bod yn brysur yn addasu'r siop i geisio sicrhau diogelwch eu cwsmeriaid.
"'Dan ni wedi gwneud lot o waith yn y siop o'r ochr paentio ac ail drefnu hefyd. 'Dan ni wedi trio rhoi rhyw un ffordd i fewn i'r ddwy siop."
Ond, mae e'n un o nifer o siopwyr sy'n galw am gefnogaeth cwsmeriaid er mwyn sicrhau dyfodol y cwmni.
"Fyddwn ni fwy nag erioed eisiau cefnogaeth pobl lleol mewn amser mor ansicr yn enwedig efo'r [rheol] pum milltir dal yn ei le. Mae'r gwaith caled yn cychwyn dydd Llun mewn ffordd hefyd.
''Dan ni'n mynd i drio'n gora' i gadw petha' fynd ond ma' 'na gymaint o ansicrwydd allan yna ond 'da ni'n reit ffyddiog bo' ni'n medru cario 'mlaen gyda'r busnes."
Llacio cyfyngiadau eraill
Mae nifer o gyfyngiadau eraill yn cael eu llacio o ddydd Llun ymlaen. Er bod y rheol pum milltir yn parhau, bydd rhai yn cael teithio ymhellach am resymau trugarog os ydyn nhw eisiau ymweld 芒 rhywun maen nhw'n bryderus amdanyn nhw.
Bydd cyrtiau awyr agored a thraciau rhedeg tu allan yn ailagor, ond dim ond ar gyfer chwaraeon di-gyffwrdd. Bydd hawl gan athletwyr elit amhroffesiynol ail-gydio yn eu hyfforddiant hefyd.
Bydd hawl gan bobl fynd i addoldai i wedd茂o'n breifat.
Bydd hawl gan bobl briodi unwaith eto, os ydyn nhw'n glynu wrth y canllawiau i aros yn lleol a chadw pellter cymdeithasol.