Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2020.

Dywedodd y beirniaid eu bod wedi cytuno i gynnwys 11 albwm eleni, yn hytrach na'r 10 arferol, oherwydd bod "cymaint o albymau o safon yn gymwys".

Bu panel o feirniaid sy'n rhan o'r diwydiant cerddoriaeth yn dewis eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.

Y beirniaid eleni oedd Elan Evans, Si芒n Eleri Evans, Huw Foulkes, Gwenan Gibbard, Dyl Mei, Si芒n Meinir, Gwyn Owen a Neal Thompson.

Yr 11 albwm ar y rhestr fer

  • 3 Hwr Doeth - Hip Hip Hwre
  • Ani Glass - Mirores
  • Carwyn Ellis & Rio 18 - Joia!
  • Cynefin - Dilyn Afon
  • Georgia Ruth - Mai
  • Gruff Rhys - PANG!
  • Gwilym Bowen Rhys - Arenig
  • Los Blancos - Sbwriel Gwyn
  • Llio Rhydderch - Sir F么n Bach
  • Mr - Amen
  • Yr Ods - Iaith y Nefoedd

Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei ryddhau yng Nghymru, a dywedodd y trefnwyr bod "cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid" ar y rhestr fer eleni.

Y cyfnod dan sylw oedd 31 Mai 2019 hyd at ddiwedd Mai 2020.

Gydag Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi'i gohirio am eleni, mae'r trefnwyr yn cydweithio gyda G诺yl AmGen 91热爆 Radio Cymru, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst, yn ystod yr 诺yl.