Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dim dewis' ond rhannu Bwrdd Iechyd Betsi?
Efallai nad oes unrhyw ddewis ond rhannu bwrdd iechyd sydd wedi bod dan fesurau arbennig ers pum mlynedd. Dyna mae Aelod Senedd yn y gogledd wedi'i ddweud.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ymyrryd yn y gwaith o reoli Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers 2015, ac yn dweud bod safon y gwasanaeth yn gwella'n raddol.
Nawr mae llefarydd iechyd Plaid Cymru wedi galw am rannu sefydliad iechyd mwyaf Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu 6 o siroedd gogledd Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn dweud bod angen gweithredu ar fyrder i sicrhau bod y mesurau arbennig yn cael eu codi.
Cafodd Bwrdd Betsi Cadwaladr ei ffurfio yn 2009 wedi i hen fyrddau Gogledd Ddwyrain Cymru, Conwy a Sir Ddinbych, a Byrddau iechyd Gogledd Orllewin Cymru uno.
Daeth y penderfyniad i roi'r bwrdd dan fesurau arbennig wedi i adroddiad ganfod bod 'camdrin sefydliadol' wedi digwydd yn ward iechyd meddwl Tawel Fan, Ysbyty Glan Clwyd Sir Ddinbych, gafodd ei gau yn 2013.
Cafodd y bwrdd ei feirniadu unwaith eto yn ystod argfywng coronafeirws wedi i 1,700 o gleifion iechyd meddwl gael eu rhyddhau o'r gwasanaeth.
Yn 么l AS Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hanes o ddiffygion difrifol. Mae wedi dod i'r amlwg hefyd bod rhai marwolaethau yn ymwneud a Covid-19 heb gael eu cofnodi yn gywir oherwydd system ddata hen ffasiwn honedig.
O ganlyniad, mae Mr ap Iorwerth wedi dweud "efallai nad oes dewis ond rhannu'r bwrdd iechyd, a dechrau eto."
"Gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod dan fesurau arbennig ers pum mlynedd, mae 'na gwestiynau anhepgor a sylfaenol yngl欧n a gweddnewid y sefyllfa," meddai.
Addas i'r diben?
"O fethiannau iechyd meddwl difrifol, i wastraffu arian ar ymgynghorwyr busnes allanol, o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru - mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi mynd o un broblem iechyd i'r nesaf.
"Ble bynnag ydyn ni, mae'r pandemig 'ma wedi gwneud i ni gyd feddwl yngl欧n a'r math o wasanaeth iechyd 'dan ni ei angen r诺an, sut y dylai gael ei ariannu'n iawn a chynnal y gweithlu. Ond yma yng ngogledd Cymru, mae wedi hoelio'n sylw ar os ydi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn addas i'r diben."
"Does gen i ddim awydd o gwbl i ad-drefnu er mwyn ad-drefnu, ond dwi wedi dod i'r casgliad, ac mae llawer mwy o bobl yn y GIG wedi dweud eu bod yn cytuno hefo fi, nad oes dewis r诺an ond rhannu'r bwrdd iechyd yma a dechrau o'r dechrau.
"Mae'n gam y baswn i'n barod i'w gymryd taswn i'n Weinidog Iechyd wedi'r etholiad."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ganiat谩u i'r bwrdd 'nychu' cyhyd.
"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu mynd i'r afael a'r problemau yng Ngogledd Cymru a llynedd dywedodd y Gweinidog Iechyd na fyddai'n gosod amserlen i ddod a'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig.
"Yn anffodus, mae blwyddyn arall wedi mynd heibio, a bydd effaith Covid-19 yn sylweddol o ran y newidiadau fydd eu hangen yn y dyfodol," medd Paul Davies AS.
"Ond fydd Ceidwadwyr Cymru ddim yn gadael i hyn bara. Ar fy niwrnod cyntaf fel Prif Weinidog, bydda i'n galw am adolygiad cyflym ond manwl o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
"O fewn mis, bydda i'n cyhoeddi canllawiau clir yn cynnwys amserlen o beth fydd angen ei gyflawni ac erbyn pryd er mwyn codi'r mesurau arbennig oddi ar Betsi."
Cynnydd cyson
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ystod eang o wasanaethau iechyd o safon yn cael eu cynnal bob dydd led led y gogledd. Mae yna gynnydd cyson wedi bod tra bod y bwrdd iechyd dan fesurau arbennig, yn enwedig yn y gwasanaethau mamolaeth a gwasanaeth gofal tu hwnt i oriau.
"Cyn y pandemig, ein asesiad ni oedd bod angen cynnydd pellach o ran arweinyddiaeth a llywodraethu, perfformiad, rheolaeth ariannol a gwasanaethau iechyd meddwl.
"Wrth i ni gyd-weithio a'r bwrdd iechyd i ail-ddechrau gwasanaethau arferol ynghyd a'r gwasanaethau angenrheidiol, byddwn ni'n cyd-weithio a'r prif weithredwr dros dro a'r cadeirydd i sicrhau gweddnewidiad hir-dymor y bwrdd iechyd.
"Ry'n ni eisiau i'r bwrdd ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o safon uchel mewn modd cynaliadwy, fydd yn caniat谩u i'r bwrdd gamu allan o'r mesurau arbennig."