Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
BLM: Mark Drakeford yn cefnogi gwaredu cerflun dadleuol
Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi cefnogi'r alwad i symud cerflun o Syr Thomas Picton, oedd yn llywodraethu dros ynys Trinidad o 1797 i 1803, o'i safle yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Fe wnaeth maer Caerdydd, Dan De'Ath, alw ar Gyngor Caerdydd i symud y cerflun, gan ddisgrifio Picton fel "perchennog creulon caethweision o'r 19eg ganrif".
Galwodd y maer ar gynghorwyr i weithredu yn dilyn camau gan gefnogwyr ymgyrch Black Lives Matter ym Mryste, aeth ati i dynnu cerflun o Edward Colston i lawr a'i daflu i ddoc yn y ddinas ddydd Sul.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gobeithio y byddai Cyngor Caerdydd yn "deall y cyd-destun sydd wedi newid yn y cyfnod yr ydym yn byw ynddo".
Cadw pellter cymdeithasol
Yn dilyn y protestiadau ym Mryste, fe wnaeth Mr Drakeford bwysleisio y dylai protestwyr gadw pellter cymdeithasol yn wyneb peryglon Covid-19.
"Fyddwn i ddim yn hoffi gweld y ffordd y cafodd y cerflun ym Mryste ei drin yn cael ei ailadrodd yma," meddai.
"Tra mod i'n rhannu'r un ffieidd-dod am ddigwyddiadau'r Unol Daleithiau ac yn cytuno bod rhaid i ni ddysgu'r gwersi hynny yma yng Nghymru, rwyf yn dal am ofyn i bobl yng Nghymru i leisio eu protest mewn ffordd nad yw'r ychwanegu at risg coronafeirws."
Ychwanegodd: "Lle mae gennym gerfluniau i bobl sydd a'u hanes yng Nghymru'n perthyn i'r gorffennol ac yn perthyn i'r gorffennol yn y cyd-destun hwnnw, yn hytrach na chael ei arddangos fel ffurf o ddathliad parhaus, yna fe ddylid gweithredu."
Wrth ymateb i alwad maer Caerdydd i symud y cerflun o Neuadd y Ddinas, dywedodd Mr Drakeford: "Rwyf yn gobeithio ac yn hyderus y bydd Cyngor Caerdydd yn ymateb mewn ffordd ofalus ac ystyrlon, gan ddeall y newid cyd-destun yn yr oes yr ydym yn byw ynddi."
Yn ei lythyr at gynghorwyr yr awdurdod lleol, dywedodd Mr De'ath: "Rwy'n teimlo fod nawr yn amser addas i ail-asesu pa mor addas ydyw i Gaerdydd i dalu teyrnged i'r fath ddyn 芒 Picton gyda cherflun wedi ei arddangos yn gyhoeddus.
Dywedodd Mr De'ath fod Picton ei hun wedi bod yn gyfrifol am "oruchwylio trefn awdurdodol hynod o greulon" tra roedd yn lywodraethwr ar Trinidad.
Ychwanegodd ei fod "wedi ei gyhuddo o ladd rhai dwsinau o gaethweision ac roedd ei gyfoeth sylweddol o ganlyniad i'w ran flaenllaw yng nghaethwasiaeth".
Cerflun H.M. Stanley
Yn y cyfamser mae deiseb wedi ei sefydlu sydd yn galw am gael gwared o'r cerflun o H.M. Stanley o ganol tref Dinbych.
Cafodd y cerflun o'r anturiaethwr dadleuol ei godi yn y dref yn 2011, ond roedd nifer yn gwrthwynebu'r syniad, gan ddweud fod Stanley yn euog o droseddau yn erbyn ei gyd-ddyn ac yn ddyn oedd o blaid caethwasiaeth.
Dywed y ddeiseb "nad oes gan gofeb i ddyn fel hyn le yng nghymdeithas Cymru yn 2011".