Annog 'ffyrdd eraill o brotestio' yn ystod y pandemig

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth torf o bobl gasglu tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd i brotestio ddydd Sadwrn

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo gydag ymgyrch Black Lives Matter, ond ei fod yn gobeithio y gall pobl ganfod ffyrdd gwahanol i brotestio yn ystod y pandemig.

"Mae 'na ffyrdd eraill sydd ddim yn peryglu iechyd cyhoeddus," meddai Mark Drakeford.

Fe wnaeth torfeydd o bobl brotestio ar draws Cymru a thu hwnt ddydd Sadwrn yn dilyn marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd rhagor o ddigwyddiadau tebyg gael eu cynnal ddydd Sul, ble daeth tua 200 o bobl i brotestio ym Merthyr Tudful.

Roedd mygydau'n cael eu dosbarthu yno gan drefnwyr y brotest, ac roedd nifer o'r protestwyr ddydd Sadwrn hefyd yn gorchuddio eu hwynebau a'n gwisgo a menig er mwyn ceisio atal lledaeniad coronafeirws.

'Rhoi eich hun ac eraill mewn perygl'

"Rwy'n deall yn llwyr pa mor gryf mae pobl yn teimlo, sydd wedi arwain at olygfeydd fel y gwelon ni ddoe," meddai Mr Drakeford ar raglen Politics Wales ddydd Sul.

"Roeddwn i'n gobeithio y byddan nhw'n ei wneud mewn ffordd wahanol oherwydd rwy'n meddwl bod ffyrdd eraill sydd ddim yn peryglu iechyd cyhoeddus.

"Ond mae'n rhaid i mi bwysleisio iddyn nhw eto, ry'n ni yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus.

"Mae 'na ffyrdd eraill y gallwch chi brotestio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Y cyngor swyddogol gan y llywodraeth yw i beidio casglu mewn grwpiau

"Roedd 'na brotestiadau ar-lein ddoe, mae 'na ddeisebau, mae 'na sefydliadau allwch chi ymuno ag ymgyrchu gyda nhw.

"Rwy'n dweud wrth bobl Cymru - pl卯s peidiwch rhoi eich hun yn y sefyllfa ble mae eich teimladau cryf - teimladau rwy'n rhannu gyda Black Lives Matter - yn eich arwain at wneud pethau sy'n eich rhoi chi ac eraill mewn perygl."

Roedd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi beirniadu'r protestiadau, gan ddweud bod y lluniau o'r digwyddiadau yn "awgrymu bod y cyfyngiadau coronafeirws a chadw pellter cymdeithasol ar ben".