Pum munud i ymlacio

Disgrifiad o'r fideo, Sesiwn byr o fyfyrdod i ymlacio dan arweiniad Laura Karadog

Ac... anadlwch! Mae bywyd wedi newid i bawb yng nghyfnod pandemig coronafeirws ac mae'n anodd i nifer ohonom ddygymod gyda'r bywyd newydd dan glo.

Mae meddwlgarwch yn gyfle i arafu, i glirio'ch meddwl a'ch helpu i ymdopi gyda heriau mawr y cyfnod.

Gwyliwch y fideo i gael cyngor gan Laura Karadog am sut i ymlacio.

Mae ioga wedi bod yn ran o fywyd Laura ers ei harddegau, ac mae hi bellach yn athrawes ioga.

Felly cymerwch saib, eisteddwch i lawr... ac anadlwch...

Hefyd o ddiddordeb