Oriel fy milltir sgwâr: Pontarddulais

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Yn ystod y cyfnod cloi mae Cymru Fyw wedi gwahodd ffotograffwyr i rannu delweddau o'u milltir sgwâr.

Dyma oriel o luniau diweddar gan Betsan Haf Evans, Celf Calon, ym Mhontarddulais. Mae hi wedi bod yn tynnu lluniau er mwyn cefnogi ymgyrch Tarian Cymru i godi arian i brynu offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.

"Ar ddiwrnod VE roeddwn i yn eistedd yn yr ardd yn ac yn clywed pobl yn dathlu yn y pellter.

"Penderfynais fynd am wâc o gwmpas Pontarddulais gyda fy nghamera i ddogfennu beth oedd yn mynd ymlaen ar strydoedd y diwrnod hwnnw."

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Disgrifiad o'r llun, Nodi diwrnod VE

"O fan hyn ddaeth y syniad i gynnig lluniau wrth y drws am rodd tuag at Tarian Cymru. Mae wedi bod yn grêt gallu helpu'r achos trwy ddefnyddio fy sgiliau ac i ddogfennu'r cyfnod hwn."

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Disgrifiad o'r llun, Teulu Morgan

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Disgrifiad o'r llun, Y teulu Wheatle

"Yn anffodus, oherwydd coronafeirws rwyf wedi colli'r holl waith a oedd wedi ei drefnu yn y misoedd nesa. Ond mae'r 'lluniau wrth y drws' yn gwneud byd o les i mi wrth fynd o gwmpas ar fy meic."

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Disgrifiad o'r llun, Enfys ar ddrws y teulu Price ar flaen y tÅ·

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Disgrifiad o'r llun, Teulu'r Griffs

"Dwi'n gwybod taw tynnu lluniau o bobl yw fy moddhad mwyaf, ond mae hefyd wedi gwneud i fi sylweddoli faint o les mae rhyngweithio gyda phobl yn ei wneud."

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Disgrifiad o'r llun, Ci teulu'r Boyd-Roberts ar y stepen ddrws

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Disgrifiad o'r llun, Y teulu Evans o flaen y tÅ·

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Disgrifiad o'r llun, Mae'r 'lluniau wrth y drws' wedi gwneud byd o les iddi meddai Betsan

Hefyd o ddiddordeb