Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder am les c诺n bach yn ystod y cyfyngiadau
Mae yna rybudd i bobl beidio prynu c诺n bach ar fympwy yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Mae staff canolfan achub anifeiliaid Many Tears yn Sir Caerfyrddin yn poeni y gallai c诺n sy'n cael eu prynu yn ystod y cyfyngiadau presennol gael eu hesgeuluso unwaith y bydd y rheolau wedi cael eu llacio.
Yn y cyfamser, mae un o elusennau lles anifeiliaid mwyaf y DU wedi newid ei slogan i adlewyrchu'r angen i feddwl yn ofalus cyn prynu ci yn ystod y cyfyngiadau.
Mae Leo, sy'n flwydd oed, yn enghraifft o gi sy'n cael gofal yng nghanolfan Many Tears yng Nghefneithin ar 么l i'w berchennog gwreiddiol golli diddordeb.
Arferion drwg
Fe gafodd y ganolfan alwad gan filfeddyg o Abertawe a ddywedodd y byddai'n rhaid rhoi'r Jackapoo i gysgu.
Roedd e'n dangos arwyddion o ffyrnigrwydd a doedd ei berchennog ddim yn gallu ymdopi.
Dywedodd perchennog y ganolfan, Sylvia Vanatta fod Leo'n enghraifft dda o gi sy'n mabwysiadu arferion drwg yn ifanc pan nad yw e wedi cael ei ddysgu i ymddwyn.
"Mae edrych ar 么l ci ifanc yn waith caled hyd yn oed pan nad oes yna gyfyngiadau," meddai. "Mae'n waith caled i'w edrych ar ei 么l a'i ddysgu sut i ymddwyn.
"Fedrwch chi ddim dysgu ci newydd yn y cyfnod ry'n ni ynddo nawr sut i fihafio o flaen pobl ddieithr neu c诺n eraill. Does 'na neb y gallwch chi ofyn iddyn nhw a mae'r gwasanaethau hyfforddi c诺n wedi cau.
"Mae'n bosib na fyddwch chi yn sylweddoli tan bod y ci yn naw mis oed bod y ci yn anodd i'w drin. Mewn sefyllfa fel hon fe fydd ganddoch chi broblem mawr ar eich dwylo."
Mabwysiadu
Mae canolfan Many Tears yn brysur iawn ar hyn o bryd ond gan nad ydy ymwelwyr yn gallu dod yno mae cartrefu rhai o'r c诺n yn cael ei wneud yn rhithiol.
Mae Karen Jones o Benclawdd, perchennog newydd Archie, ymhlith y cwsmeriaid a lenwodd ffurflen i'w fabwysiadu ar-lein.
"Roedd yn rhaid i mi ddangos lluniau o fy nghartre' a'r ardd gefn i'r ganolfan," meddai. "Gan ein bod ni wedi mabwysiadu ci o'r blaen, fe gawsom ni ein derbyn.
"Mae'n achosi loes i mi feddwl be' fyddai'n digwydd i'r c诺n heb ganolfannau fel hyn."
Ond mae Sylvia Vanatta yn poeni y bydd yna ragor o bwysau ar y ganolfan yn yr wythnosau nesaf i dderbyn rhagor o g诺n sydd wedi eu hesgeuluso. Fe allai hynny fod yn anodd hefyd oherwydd, ers i'r cyfyngiadau ddod i rym, does yna ddim incwm yn dod i mewn i gynnal y ganolfan.
Mae ystadegau diweddar gan Dogs Trust, elusen lles c诺n fwyaf y DU, yn awgrymu bod nifer yr ymholiadau ar y we am 'brynu ci' wedi cynyddu 120% yn ystod mis cyntaf y cyfyngiadau.
Fe newidiodd yr elusen ail hanner ei slogan gyfarwydd 'A dog is for Life, not just for Christmas' i 'not just for lockdown' er mwyn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn prynu ci yn ystod y cyfyngiadau.
'Ymrwymiad mawr'
Angela Wetherall yw un o reolwyr canolfan Dogs Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hi'n dweud ei bod hi'n allweddol bod pobl yn meddwl yn ofalus am yr ymrwymiad y mae'n ei olygu.
"Ry'n ni yn poeni y gwelwn ni sefyllfa debyg yn codi yn yr wythnosau nesaf a ry'n ni yn ei weld ar 么l cyfnod y Nadolig ble mae pobl eisiau cael gwared a'u c诺n pan mae realiti'r ymrwymiad wedi eu taro. Mae hi'n hynod bwysig bod pobl yn meddwl am y sefyllfa tymor hir."
Mae gan Sylvia Vanatta gyngor amserol i unrhyw un sy'n ystyried prynu ci yn ystod y cyfnod yma.
"Os nad oes gennych chi brofiad o ofalu am g诺n ond yn ystyried prynu ci bach, yna byddwch yn amyneddgar tan y bydd rhai o'r cyfyngiadau wedi eu llacio.
"Fe fydd hi'n haws cael cyngor a hyfforddiant a bydd y ci yn gallu ymgynefino yn well yn gymdeithasol. Pan fydd y cyfnod hwn drosodd gwnewch yn sicr bod digon o amser gennych chi i roi blaenoriaeth i ofalu am gi."