Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llacio cyfyngiadau i rai Cymry tramor
Wrth i lywodraethau ddechrau trafod pryd a sut i ddechrau llacio cyfyngiadau Covid-19 ym Mhrydain, mae rhai gwledydd yn barod wedi dechrau dod allan o'u 'lockdown'.
Ddeufis ers iddyn nhw drafod effaith y cyfyngiadau ar eu ffordd o fyw, tri o Gymry tramor sy'n egluro wrth Cymru Fyw sut mae eu bywydau nhw nawr yn dechrau dod yn 么l i drefn - yn araf bach.
Ioan Morgan - Fietnam - "Mae cadw pellter yn haws amser cinio ac yn y dosbarth"
Mae Ioan Morgan, sy'n wreiddiol o Ddolgellau, yn athro mewn ysgol yn Hanoi, Fietnam.
Mae'r ysgol wedi agor yr wythnos yma ar 么l bod ar gau ers tri mis.
"Ddoe oedd y diwrnod cynta' ac roedd yn od.
"Dwi wedi bod yn cyflwyno gwersi ar-lein ers wythnosau felly dwi wedi bod yn dysgu'r disgyblion bob dydd ond roedd yn hyfryd eu gweld nhw eto. Roedden nhw ychydig yn nerfus, ond yn iawn ar y cyfan ac yn falch o weld eu ffrindiau eto.
"Roedda nhw'n dawel iawn, fyddwn i'n cymharu'r awyrgylch efo diwrnod cynta' yn Medi - roedd yr awyrgylch yn isel ac ychydig bach yn fflat.
"Mae mesurau mewn lle i wneud yn si诺r bod y plant yn ddiogel ac i wneud yn si诺r bod y llywodraeth yn hapus efo be' rydan ni'n wneud.
"Mae angen i ni gadw metr rhwng bob plentyn, checio eu tymheredd nhw, cael hand sanitisers ym mhobman ond mae'r risg bod y feirws yn yr ysgol yn isel iawn, iawn achos does dim achos yn y gymuned wedi bod er sbel - dim ond pobl sy'n dod fewn i'r wlad.
"Efo'r mesurau newydd mewn lle fe wnaeth amser cinio gymryd dwy awr a chwarter. Roedd pawb yn mynd fesul blwyddyn, roedd rhaid aros i fynd i mewn gan fod rhaid i'r plant eistedd efo un sedd rhwng pawb, efo sticeri lle'r oedd y plant yn cael eistedd - felly roedd llai o le ac roedd yn cymryd oes, ond mae'n rhaid gwneud hyn er mwyn gallu ail agor.
"Roedd cadw pellter yn haws amser cinio ac yn y dosbarth - ond yn y coridorau, a thu allan i'r dosbarth rhwng gwersi roedd yn sialens - roedden nhw efo'i gilydd, rhai yn cerdded ac yn dal dwylo achos doedde nhw heb weld ei gilydd ers tri mis."
Menna Price - Yr Eidal - "Mae'n anodd iawn peidio gwenu heddiw"
Yr Eidal oedd y wlad gyntaf i osod cyfyngiadau cenedlaethol yn gorfodi pobl i aros yn eu cartrefi. Ddeufis yn ddiweddarach mae'r llywodraeth wedi dechrau llacio ychydig o'r mesurau llym.
Mae Menna Price yn wreiddiol o Gaerdydd, ond bellach yn byw yn ninas Ravenna yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal, gyda'i g诺r Mauro a'u , sy'n naw oed.
"Mae'n anodd iawn peidio gwenu - y ffaith bod ni'n gallu mynd allan nawr i gerdded a hefyd mynd mas fel teulu i gerdded ac mae'r tywydd yn braf. Wedi dweud hynny ni wedi bod yn garcus a synhwyrol.
"Fues i bore 'ma i gael cappuccino a cael take away ond roedd hi'n dawel iawn yno.
"Ers y cyfyngiadau tydan ni heb fedru mynd allan fel teulu o gwbl, dim hyd yn oed i wneud ymarfer corff, dim ond mynd allan i siopa bwyd ac i gerdded 200 llath i lawr y ffordd. I fynd i siopa roedd angen ffurflen ar-lein a'i phrintio, sgwennu enw'r siop a'r stryd a chyfiawnhau popeth yn gyfreithiol. Mae rhwng 3-18 mis o garchar a fines o rhwng 500 - 5,000E i bobl sydd yn torri rheolau'r lockdown.
"Maen nhw'n llac谩u ychydig nawr, a fyddwn ni'n cael mynd allan am dro yn lleol. Maen nhw'n agor y parciau, ond fyddan nhw ddim eisiau gormod o blant yn mynd - bydd rhywun tu allan yn gweld faint sy'n mynd i mewn. Fydd plant yn gallu cyfarfod dau neu dri ar y tro, ac mae'n rhywbeth pwysig iawn yn enwedig i blant sydd heb frawd na chwaer, sydd heb gael unrhyw gyswllt corfforol efo plant eraill. Mae'n bwysig eu bod nhw'n gallu byw fel plant.
"Allwn ni fynd i weld perthnasau nawr ond nid fel gr诺p mawr - maen nhw'n awgrymu i ni beidio cael cinio dydd Sul teuluol. Mi fydd yn rhaid bod yn garcus, ac mae lan i deuluoedd unigol i benderfynu be' sydd orau iddyn nhw - os oes un aelod newydd ddod allan o'r ysbyty neu os mae rhywun yn reit wan efallai nad yw'n addas i gyfarfod.
"Dwi'n edrych ymlaen at wneud y pethau bach syml o hyn ymlaen. Mynd am dro ac ymlacio heb fod yn bryderus bod rhywun yn mynd i stopio chi. Mynd i weld mam-gu - Mam-gu'r Eidal, mae hi'n byw yn agos ond mae hi newydd gael clun newydd felly dwi heb fynd i'w gweld hi, dim ond ei mab.
"Ry' ni'n gorfod gwisgo masg os yn mynd i siop. Mae'r llywodraeth wedi rhoi pris sefydlog ar fasgiau - mae prisiau wedi codi yn sylweddol, ac roedd lan i'r siopau beth oedden nhw'n godi - nawr fe fydd y pris yn sefydlog ac yn isel. Mae dal yn anodd dod o hyd i fenig plastig. Mae'n rhaid eu gwisgo os yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen bod yn synhwyrol ac yn garcus ar yr un pryd."
- YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Karl Davies - China - "Dwi wedi gweld am y tro cyntaf un neu ddau o bobl o gwmpas heb fasgiau"
Mae Karl Davies yn athro Saesneg yn nhalaith Guangdong, China. Mae cyfyngiadau wedi bod mewn rhai ardaloedd o'r wlad ers mis Ionawr, pan ddechruodd y feirws ymledu o ardal Wuhan.
"Mae pethau yma wedi newid yn o sylfaenol yn ddiweddar. Wythnos diwethaf am y tro cynta' ers cyfnod doeddwn i ddim yn gorfod profi fy nhymheredd wrth fynd o un parth i'r llall. O'r blaen, allwn i ddim troi o'r stryd fawr i ran arall heb gael profi tymheredd.
"Maen nhw dal i brofi tymheredd pan dwi'n dod i mewn i adeilad y fflat.
"Peth arall sydd wedi newid ydi ein bod ni'n gorfod cael trwydded i ddangos ein bod ni'n iach cyn mynd i adeiladau cyhoeddus a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd yn rhaid mynd i swyddfa i ddangos pasbort i brofi nad ydw i wedi mynd allan o'r wlad yn ddiweddar, unwaith roeddwn i wedi gwneud hynny roedd gen i'r c么d QR ar fy ff么n ac os dwi'n mynd i'r Metro fydd rhaid i mi ddangos hwnnw a'i sweipio.
"Mae ysgolion dal wedi cau, felly dwi dal i ddysgu o adra' ar y funud, ond dwi'n cael teithio fel dwi eisiau. Yn y dyddiau diwethaf dwi wedi gweld am y tro cyntaf un neu ddau o bobl o gwmpas heb fasgiau - felly mae hynny'n dangos bod pobl yn dechrau ymlacio.
"Nes i fynd i ddau gaffi dwi'n mynd iddyn nhw yn aml ac roedd rhaid i mi gael profi tymheredd cyn mynd i mewn, ond gawn ni fynd i mewn ac eistedd efo ffrindiau - ond nid eistedd wrth bobl eraill. Mae ymbellhau yn dal i ddigwydd i'r graddau hynny. Mae pethau yn dechrau llacio yn raddol ond mae pawb dal yn cymryd gofal.
"Mae lot o bobl yn 么l yn gwaith ond mae rhaid i gyflogwyr brofi tymheredd pawb a chadw cofnod manwl o le mae eu staff wedi teithio - teithio yn sgil gwaith ac yn bersonol ac mae'n rhaid rhoi hyfforddiant arbennig i staff glanhau er mwyn iddyn nhw wybod sut i lanhau yn iawn yn sgil y feirws.
"Roeddwn i'n edrych ar lun o ffatri y dydd o'r blaen, ac roedd y caffi yn agored yno ond ar fwrdd i bedwar dim ond dau oedd arno ac efo sgrin rhyngddyn nhw.
"Maen nhw wedi cyhoeddi bod Cyngor y Bobl, fel Senedd China, yn digwydd Mai 25, felly bydd 5000 o bobl o bob ardal yn dod yno felly mae hynny'n arwydd o sut mae pethau wedi newid.
"Beth sy'n hynod o ddifyr ydi bod y wlad yn dechrau edrych tu hwnt i'r feirws ac yn edrych ar sut i adfer yr economi ar 么l i'r argyfwng ddod i ben. Maen nhw'n sylweddoli waeth pa mor dda mae China yn delio gyda'r sefyllfa, os nad ydi pethau yn gwella yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop fydd China methu allforio - felly mae trafodaethau ar sut i newid yr economi - i gael economi mwy soffistigedig, fel bod llai o ddibyniaeth ar allforio."
Hefyd o ddiddordeb: