Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
S诺 M么r M么n yn codi arian ar adeg 'argyfyngus'
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Mae S诺 M么r M么n wedi lansio cronfa ap锚l argyfwng i geisio codi arian er mwyn sicrhau y bydd modd i'r cwmni barhau yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae'r atynfa, ger Brynsiencyn ar Ynys M么n, ar gau felly does dim incwm ar hyn o bryd.
Yn 么l y perchennog, Frankie Hobro, mae'r sefyllfa yn argyfyngus.
"Mae hi'n greisis arnom ni oherwydd does gennym ni ddim llif arian ar y funud ac mae'r argyfwng llif arian yn bodoli oherwydd nad oes 'na arian yn dod i mewn ar adeg pan fydden ni fel arfer yn gwneud 40% o'n helw blynyddol," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi ysgrifennu at y pob s诺 yn crybwyll y cynlluniau sy'n bodoli y gallan nhw fod yn gymwys amdanynt i'w hariannu.
Mae angen rhyw 拢15,000 i 拢20,000 y mis ar S诺 M么r M么n i dalu costau rhedeg sylfaenol.
Mae'r costau hynny'n cynnwys rhedeg pympiau d诺r a rheoli tymheredd tanciau sy'n gartref i greaduriaid prin fel ceffylau m么r yn ogystal 芒 chostau bwydo'r anifeiliaid.
Dywedodd aelod Cynulliad Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth, bod angen pecyn cymorth arbennig i'r s诺 gan y llywodraeth.
"Mae 'na lawer o becynnau cymorth da wedi dod i fusnesau gan lywodraethau Prydain a Chymru, ond 'dan ni wedi darganfod dros yr wythnosau diwethaf 'ma bod 'na dyllau a bod 'na bobl sy'n disgyn drwy'r tyllau rheiny," meddai.
"Efo'r S诺 M么r mae gennym ni fusnes sydd efo costau sylweddol yn gysylltiedig efo cadw d诺r yn oer a glan a chadw creaduriaid yn fyw.
"Felly be dwi'n gredu ydy bod angen pecyn cymorth sydd yn cymryd i ystyriaeth ofynion arbennig busnes o'r fath fel bod nhw'n gallu dod trwy'r adeg anodd yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ysgrifennu at y s诺au yng Nghymru gyda manylion y cynlluniau sy'n bodoli eisoes y gallent fod yn gymwys i'w hariannu, yn ogystal 芒 chyhoeddi holiadur i nodi pryderon allweddol yngl欧n 芒 lles anifeiliaid ac a oes unrhyw fylchau yn y cyllid yn bodoli."
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref